Garry Monk yn ffyddiog cyn i'w dîm wynebu Napoli

Garry Monk, Rheolwr Abertawe Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Garry Monk - yn ffyddiog ei fod yn barod am Napoli

Wrth i Clwb Pêl-droed Abertawe baratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn Napoli yng Nghynghrair Europa nos Iau, mae Garry Monk - rheolwr dros dro'r clwb - wedi dweud ei fod yn ffyddiog ei fod yn barod am yr her.

Dyma fydd y prawf mwya' i'r Elyrch ers i Monk gael ei benodi wedi i Michael Laudrup gael ei ddiswyddo ar Chwefror 4.

Fe ddywedodd y rheolwr dros dro: ''Wrth gwrs, doeddwn i erioed wedi disgwyl bod yn y sefyllfa yma. Ond rydw i'n barod - dwi'n gwybod beth hoffwn ei wneud''.

Mae'r amddiffynwr 34 oed wedi bod yn gyfrifol am reoli'r clwb dros y tair gêm ddiwethaf, gan ennill buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Caerdydd a chael gêm gyfartal 1-1 yn Stoke yn yr Uwchgynghrair, cyn collio 3-1 yn erbyn Everton ym mhumed rownd cwpan yr FA ddydd Sul diwethaf.

Bydd y cymal cyntaf yn erbyn Napoli yn ddiweddarach yn brawf o allu Garry Monk i reoli ar y lefel uchaf.

'Dipyn o daith'

Ychwanegodd Monk: ''Roeddwn i'n chwaraewr ar y ffordd i hyfforddi un funud, yna'n rheoli'r gemau diweddar - fel gêm ddarbi de Cymru, a nawr yn erbyn Napoli - mae wedi bod yn dipyn o daith.''

''Mae Napoli'n un o dimau gorau Ewrop. Rydw i wedi gweld llawer o'u gemau ac wedi eu hastudio. Mae ganddyn nhw chwaraewyr da ar hyd y cae.''

''Ar hyn o bryd maen nhw'n un o'r clybiau mwya' pwerus o ran yr hyn maen nhw'n gallu ei wario a safon y chwaraewyr sydd ganddyn nhw, felly mae amser caled o'n blaenau.''

''Ond mae hi'n gêm yr ydan ni'n edrych ymlaen yn fawr ati.''

'Blaenoriaeth'

''Y flaenoriaeth ydi aros yn yr Uwchgynghrair - mae hyn yn hanfodol i'r clwb. Ond tydi nosweithiau fel hyn ddim yn digwydd yn aml.''

''Rydan ni am drio ein gorau glas i roi perfformiad y gallwn fod yn falch ohono.''

Fe wnaeth Monk nifer o newidiadau i'r garfan yn erbyn Everton y penwythnos diwethaf - gan gadw llygad ar y prawf fydd yn ei wynebu yn erbyn Napoli.

Mae disgwyl iddo ddewis carfan gyfarwydd yn erbyn Napoli ond ni fydd yr ymosodwr Michu ar gael gan ei fod yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei bigwrn ym mis Rhagfyr.

''Mae wedi bod yn anodd," meddai Monk. ''Fe ddaeth yn ôl i hyfforddi, ond mae'n dal mewn poen.

"Fydd o ddim ar gael yn erbyn Napoli, sydd yn siom iddo fo ac i ni hefyd. Roedd o'n ysu i chwarae, ond weithiau mae peryg gwneud gormod''.

Mae Abertawe wedi chwarae 10 gêm yn barod yng Nghynghrair Europa y tymor hwn, gan gynnwys buddugoliaeth o 3-0 oddi cartref yn erbyn Valencia yn Sbaen.

Bydd yr ail gymal yn erbyn Napoli yn Stadio San Paolo ar Chwefror 27.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.