Snwcer: Stevens yn chwysu

Matthew Stevens
Image caption Cafodd Stevens rhediad o dros 50 yn y ffrâm olaf

Mae Matthew Stevens wedi cyrraedd ail rownd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru o drwch blewyn wedi'r rownd gyntaf ddydd Mercher.

Enillodd y gêm o bedair ffrâm i dair yn erbyn Adam Wicheard gyda rhediad o dros 50 yn y ffrâm olaf.

Cafodd Andrew Pagett well hwyl o lawer arni gan ennill o bedair i ddim yn erbyn Marcus Campbell - yr unig chwaraewr ddydd Mercher i beidio colli ffrâm.

Ond mae un Cymro eisoes allan o'r gystadleuaeth.

Fe gollodd Duane Jones o 4-2 yn erbyn David Gilbert yn y rownd gyntaf.

Ddydd Iau, llwyddodd trydydd Cymro i gyrraedd yr ail rownd wrth i Dominic Dale guro Antony Parsons o 4-3.

Pencampwriaeth Agored Cymru 2014 yw'r tro cyntaf i 128 o chwaraewyr cystadleuaeth ddethol y byd ddechrau yn yr un rownd ac yn yr un lleoliad.

Ynghyd ag ambell hen ben fel Dale, Mark Williams, Matthew Stevens a Ryan Day, mae criw o Gymry ifanc eraill yn gobeithio creu argraff.

Michael White o Gastell-nedd yw un wrth gwrs. Er iddo gyrraedd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd yn y Cruicible yn 2013, dyw e heb ddangos arwyddion pellach o'i ddatblygiad ers hynny ac fe fydd yn gobeithio aildanio'i yrfa gyda pherfformiad da.

Y tri arall sy'n gobeithio am bencampwriaeth dda yw Jamie Jones, Daniel Wells, Jak Jones a Pagett.

Straeon perthnasol