Dod o hyd i fachgen ar goll

Sean Sachez Levi Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Doedd neb wedi gweld Sean Sachez Levi ers 1:40yh ddydd Iau

Mae Heddlu'r Gogledd yn cyhoeddi eu bod wedi dod o hyd i fachgen 15 oed fu ar goll yn ardal Corwen am gyfnod byr.

Doedd neb wedi gweld Sean Sachez Levi o Landrillo ger Corwen ers 1:40yh ddydd Iau.

Cafwydd hyd iddo yn ddiweddarach yn ddiogel ac yn iach.

Dywedodd yr heddlu eu bod am ddolch i'r cyhoedd am eu cymorth yn ystod yr oriau y bu Sean ar goll.