Gŵyl No 6 yn gobeithio derbyn gwobr

Manic Street Preachers Image copyright Getty Images
Image caption Y Manic Street Preachers o Goed Duon oedd prif fand yr ŵyl yn 2013

Mae gŵyl gerddorol yng Ngogledd Cymru wedi ei henwebu ar gyfer gwobr gan y cylchgrawn dylanwadol NME am yr Ŵyl Bychan Gorau.

Ers nifer o flynyddoedd mae festival No.6 wedi bod yn cael ei chynnal ym Mhortmeirion ger Porthmadog bob mis Medi. Mae'r enw yn cyfeirio at y lle cafodd y gyfres enwog The Prisoner ei ffilmio yn ystod yr 1960au.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi i'r ŵyl orau sydd ddim gyda chynulleidfa o fwy na 50,000 yn mynychu.

Llynedd enillodd y trefnwyr y wobr am yr ŵyl a gynhaliwyd yn 2012. Y flwyddyn honno y band New Order oedd y prif berfformwyr.

Yn 2013 y Manic Street Preachers oedd y prif fand i ymddangos, ac roedd nifer o artistiaid Cymraeg yn perfformio hefyd fel Geraint Jarman, Bryn Fôn a Cowbois Rhos Botwnnog.

Yn ôl cyfarwyddwr yr ŵyl, Brad Thompson, maent yn paratoi at yr ŵyl eleni ac yn ychwanegu elfennau newydd megis, celfyddydau, comedi a bwyd.

Meddai Mr Thompson: "Mae'n ŵyl arbennig mewn lle hynod.

"Mae'n anrhydedd i ni gael ein henwebu. Enillwyd y wobr llynedd ac mi fuasai'n anhygoel i bawb sy'n gweithio ac yn gysylltiedig os ydym yn gallu ei chipio eto."

Bydd y noson wobrwyo yn digwydd ar nos Fercher, Chwefror 26, yn yr Academi O2 yn Brixton, Llundain.

Disgwylir bydd Gŵyl No6 yn cyhoeddi pwy fydd yn ymddangos eleni dros y wythnosau nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.