Abertawe a Napoli'n ddisgôr

Wilfried Bony is denied by Rafael Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Arbedodd Rafael ergyd gan Bony cyn yr egwyl

Abertawe 0-0 Napoli

Roedd yn rhaid i Abertawe fodloni ar gêm gyfartal yn Stadiwm Liberty yng nghymal cyntaf y gêm yn erbyn Napoli yn rownd 32 olaf Cynghrair Europa nos Iau.

Bu'n rhaid i'r ddau golwr fod ar eu gorau yn y munudau agoriadol.

Wrth i Napoli ddechrau ar dân, fe wnaeth Michel Vorm arbediad campus o ergyd Marek Hamsik.

Ond yn syth bron fe gafodd yr Elyrch gyfnod da o ymosod. Roedd Nathan Dyer yn meddwl ei fod wedi sgorio pan darodd ergyd dda at y gornel uchaf, ond llwyddodd golwr yr ymwelwyr, Rafael, i gael blaenau'i fysedd at yr ergyd.

Cyfle gwych

Cyn pen deng munud roedd Wilfried Bony wedi tanio dwy ergyd rymus, ond methu taro'r nod wnaeth y ddwy.

Ond daeth cyfle llawer gwell iddo wedi 22 munud yn dilyn pas wych Pablo Hernandez.

Dim ond y golwr oedd gan Bony i'w guro, ond roedd Rafael yn ddigon da i gael ei fraich at y bêl unwaith eto i ildio cic gornel yn unig.

Ond o bosib mai Ashley Williams gafodd y cyfle gorau yn yr hanner cyntaf - daeth y bêl ato yn y cwrt chwech wedi cic gornel ond fe aeth ei beniad dros y trawst.

Di-sgôr ar yr egwyl felly, ond dim amheuaeth mai'r Elyrch a reolodd y cyfnod cyntaf.

Rheoli meddiant

Er i Rafael orfod gadael y maes ar yr egwyl - gyda chyn-golwr Lerpwl Pepe Reina'n cymryd ei le - daeth cyfle gwych i'r ymwelwyr o fewn tri munud i'r ailddechrau.

Pan ddaeth y bêl at Gonzalo Higuain bum llath o'r gôl fe fyddai llawer wedi disgwyl ei weld yn sgorio, ond fe aeth ei ergyd siomedig ymhell heibio'r postyn.

Roedd yr ail hanner yn ddistawach na'r gyntaf, ond gydag Abertawe yn dal i greu cyfleoedd drwy reoli'r meddiant.

Bydd Abertawe'n falch na wnaethon nhw ildio gôl yn erbyn un o dimau gorau'r Eidal ac Ewrop.

Ond roedd eu perfformiad yn haeddu gwell, ac fe fydd Garry Monk a'i dîm yn gwybod eu bod yn wynebu tasg anodd yn yr Eidal ymhen wythnos.