Lerpwl 4-3 Abertawe

Jordan Henderson Image copyright Getty Images
Image caption Jordan Henderson wnaeth sgorio dwy gôl i Lerpwl

Colli o drwch blewyn wnaeth yr Elyrch yn erbyn Lerpwl yn Anfield o 4 gol i 3 mewn gêm lawn cyffro. Lerpwl sgoriodd gyntaf a hynny yn fuan ar ddechrau'r gêm. Daniel Sturridge rhwydodd.

Ac ar ol ugain munud mi ddaeth gôl arall i'r cochion gyda'r chwaraewr canol cae Jordan Henderson yn taro o ugain llath i ffwrdd.

Os oedd cefnogwyr Abertawe yn dechrau anobeithio doedd dim angen iddyn nhw. Mi darodd yr Elyrch yn ôl yn gyflym gyda gôl fedrus gan gyn chwaraewr Lerpwl, Jonjo Shelvey, yn derbyn cymeradwyaeth gan y cefnogwyr o'r ddau dîm.

Cyn diwedd yr hanner cyntaf daeth un arall gyda pheniad Bony yn llwyddo i daro cefn y rhwyd. Roedd y sgor rwan yn gyfartal.

Wnaeth hi ddim aros felly gyda Daniel Sturridge yn rhoi Lerpwl yn ôl ar y blaen.

Ychydig funudau ar ddechrau'r ail hanner mi gafodd Bony ei ail gôl trwy gic o'r smotyn. Ond yn chwarter awr olaf y gêm daeth ail gôl i Henderson.

Er ymdrech lew tim Abertawe maen nhw'n gadael Anfield heb unrhyw bwynt a Lerpwl yn parhau ym mhedwar uchaf tabl yr uwchgynghrair.

Straeon perthnasol