Dreigiau 24-23 Glasgow

Ross Wardle Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Ross Wardle gais i'r Dreigiau

Y Dreigiau sydd yn dathlu wedi gêm agos yn erbyn Glasgow yn y Pro 12 yn Rodney Parade. 24-23 oedd y sgor terfynol.

Yr Albanwyr gafodd y cais cyntaf a hynny o fewn ychydig funudau ar ddechrau'r hanner cyntaf. Rob Harley groesodd. Tarodd y Dreigiau yn ôl gyda Matthew Pewtner yn creu'r ail ond y prop Owen Evans yn croesi'r llinell.

Mewn gêm gyflym Niko Matawalu o dîm Glasgow oedd y nesaf i fynd amdani gan lwyddo i redeg 80 metr a rhoi'r bêl dan y pyst.

Yr Albanwyr oedd yn arwain ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Wedi 66 munud daeth cais i'r Dreigiau gan Cory Hill. Roedd Glasgow dal ar y blaen ar ôl i Finn Russell ychwanegu pwyntiau gyda'i droed.

Ond llwyddodd yr eilydd Ross Wardle i gael cais. Ac er bod y gic o ongl anodd mi aeth hi drosodd i Rhys Jones gan sicrhau buddugoliaeth glos i'r Dreigiau.