Gweilch 11-25 Munster

Munster wing Simon Zebo brings down Ospreys prop Dan Suter in the Pro12 at Liberty Stadium Image copyright Huw Evans picture agency

Munster oedd yn fuddugol yn y gêm brynhawn Sul yn erbyn y Gweilch yn y Liberty. Mae hyn yn golygu mai nhw nawr sydd ar frig y gynghrair.

Yr ymwelwyr groesodd y llinell gyntaf gyda chais yn dod i Sean Dougall a throsiad gan Ian Keatley. Mi gafodd o hefyd ddwy gic gosb. Daeth ymateb gan y Gweilch wrth i Ashley Beck groesi.

13-8 oedd y sgor i'r Gwyddelod erbyn diwedd yr hanner cyntaf.

Daeth cais i Simon Zebo yn yr ail hanner ond llwyddodd y Gweilch i gau'r bwlch gyda chig gosb gan Sam Davies. Er i'r Gweilch bwyso yn galed mi ildion nhw drydedd cais. Y canolwr James Downey lwyddodd i groesi a thrwy hynny ladd ysbryd y Gweilch.

Maen nhw rwan yn wynebu Caeredin nos Wener.