Gwrthdrawiad ar Ynys Môn: Anafiadau difrifol

Heddlu
Image caption Roedd y gwrthdrawiad am 8.40yh nos Sadwrn

Mae dau o bobl leol wedi cael eu hanafu'n ddifrifol oherwydd gwrthdrawiad ar y B4419 rhwng Llangaffo a Gaerwen ar Ynys Môn nos Sadwrn.

Roedd y gwrthdrawiad am 8.40yh rhwng dau gar Ford Fiesta, un gwyn ac un du.

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru a'r gwasanaethau brys eu galw.

Fe gafodd gyrwyr y ddau gerbyd, dynes yn ei 40au a dyn yn ei 20au, eu hanafu'n ddifrifol.

Wrth ymchwilio, mae'r heddlu'n apelio am dystion.

Dylai unrhywun â gwybodaeth neu a welodd y ddamwain ffonio'r heddlu ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod RC14027402, neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.