£1m i atgyweirio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Crac Image copyright Ymddiriedolaeth y Camlesi a'r Afonydd
Image caption Mae disgwyl i'r gwaith atgyweirio gymryd dros ddau fis

Mae gwerth £1 miliwn o ddifrod wedi ei wneud i Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, yn ôl Glandŵr Cymru - Ymddiriedolaeth y Camlesi a'r Afonydd yng Nghymru.

Cafodd 125 metr ar hyd ochr y gamlas, yn ardal Llanfoist, ei ddifrodi'n dilyn y glaw trwm diweddar.

Roedd wedi mynd i ddal cymaint o ddŵr nes iddo ddechrau "llithro lawr ochr y mynydd".

Bydd y rhan o'r gamlas rhwng Gofilon a Llanfoist, tua 2 cilometr o hyd, ynghau wrth i waith atgyweirio gael ei gynnal.

Er mwyn i Glandŵr Cymru allu gwneud hyn bydd rhaid iddyn nhw hoelio'r wal yn ôl i'r graig gyda 500 o binnau anferth, pob un yn 10 metr o hyd.

Mae disgwyl i'r gwaith gymryd naw wythnos i'w gwblhau, gyda'r rhan sydd ynghau yn ailagor ddiwedd mis Ebrill.

Cysylltiad pwysig

Dywedodd Vince Moran, ar ran Glandŵr Cymru: "Mae cost sylweddol yn mynd i fod ynghlwm wrth atgyweirio'r ochr.

"Rydym yn amcangyfrif iddo fod oddeutu £1 miliwn, ond fyddwn ni ddim yn gwybod yn siŵr nes i ni ddechrau hoelio'r pinnau mawr i'w lle, a gweld faint o amser mae'n debygol o gymryd.

"Rydym yn gwybod fod llawer o fusnesau yn dibynnu ar y gamlas i fod yn agored, a'i bod yn ganolog i les economaidd y rhan yma o'r wlad.

"Rydym yn siarad gyda busnesau cychod lleol, cychwyr a thrigolion ynglŷn â pham bod angen gwneud y gwaith a'r effaith mae'n debygol o gael."

Ychwanegodd fod gweddill y gamlas yn parhau i fod yn agored, a'i fod yn annog pobl i barhau i ymweld â'r ardal.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.