Cymru heb Ramsay i wynebu Gwlad yr Iâ

Aaron Ramsay
Image caption Does dim disgwyl i Ramsey fod yn holliach tan ail hanner fis Mawrth

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru heb y chwaraewr canol cae, Aaron Ramsey, ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ ar Fawrth 5.

Dyw chwaraewr 23 oed Arsenal yn dal ddim yn holliach ar ôl cael anaf i'w glun ers mis Rhagfyr.

Ond mae ymosodwr Real Madrid, Gareth Bale, wedi'i gynnwys ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Felly hefyd chwaraewr canol cae Manchester City, Emyr Huws, a allai ennill ei gap cynta' dros Gymru.

Mae'r pêldroediwr 20 oed ar fenthyg i Birmingham City ar hyn o bryd.

"Mae'n chwaraewr ifanc sy'n haeddu cyfle," meddai rheolwr Cymru Chris Coleman.

"Mae wedi gwneud yn dda iawn gyda Manchester City a nawr, yn fwy diweddar, ar fenthyg i Birmingham City.

'Cyfle da'

"Gan fod Aaron Ramsey'n dal ddim ar gael, mae'n gyfle da i gael Emyr hefo ni i ddangos i ni beth mae'n gallu gwneud yn y sesiynau hyfforddi."

Mae Coleman hefyd yn hyderus y bydd Bale ar gael ar gyfer y gêm gyfeillgar er gwaetha gofynion ei glwb Real Madrid.

Bydd y gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ yn ddechrau paratoadau Cymru cyn i'r rowndiau rhagbrofol ddechrau ar gyfer Ewro 2016.

Mae Cymru yng ngrŵp B gyda Gwlad Belg, Bosnia-Hercegovina, Israel, Cyprus ac Andorra.

Bydd gan dîm Coleman gêm arall gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd yn Amsterdam ar Fehefin 4, cyn cychwyn eu hymgyrch Ewro 2016 gartre' yn erbyn Andorra ar Fedi 9.

Carfan Cymru (i wynebu Gwlad yr Iâ mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fawrth 5):

Hennessey (Crystal Palace), Myhill (West Brom), Fon Williams (Tranmere); Collins (West Ham), B Davies (Abertawe), Gabbidon (Crystal Palace), Gunter (Reading), Matthews (Celtic), Richards (Abertawe), Ricketts (Wolves), Taylor (Abertawe), A Williams (Abertawe); Allen (Lerpwl), Collison (West Ham), Huws (Birmingham), King (Caerlŷr), Ledley (Crystal Palace), J Williams (Crystal Palace), Bale (Real Madrid), Church (Charlton), Easter (Millwall), Robson-Kanu (Reading), Vokes (Burnley).

Standby: Cornell (Abertawe), J Wilson (Oldham), John (Caerdydd), Henley (Blackburn), Nyatanga (Barnsley), Wiggins (Charlton), H Wilson (Lerpwl), MacDonald (Bournemouth), Isgrove (Southampton), Lawrence (Yeovil), Morison (Millwall), C Davies (Preston).

Straeon perthnasol