Tân Canolfan Hamdden Penarth yn ddamweiniol

Canolfan Hamdden Penarth
Image caption Roedd 50 o bobl wedi gorfod gadael y ganolfan tua 5.15 brynhawn Sul wedi i dân ddechrau yn y sawna

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cadarnhau mai drwy ddamwain y cynnodd tân yng Nghanolfan Hamdden Penarth yng Nghogan ar ddydd Sul.

Roedd rhaid i 50 o bobl adael y safle wrth i Wasanaethau Tân y De ddelio â'r sefyllfa.

Mae'n debyg fod y tân wedi cychwyn yn y sawna.

Bydd y ganolfan hamdden wedi cau tan ddydd Sul o leiaf, yn ôl y cyngor.

Straeon perthnasol