Pont ar draws Afon Gwy yn Erwyd ar fin ailagor

Mae'r gwaith o gryfhau ac adnewyddu pont ar draws Afon Gwy yn Erwyd ar fin cael ei gwblhau, yn ôl Cyngor Powys.

Cafodd y bont ei chau i gerbydau ar ddiwedd Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf y llynedd, er ei bod wedi parhau yn agored i gerddwyr.

Fe ddywedodd y Cynghorydd John Powell, aelod o gabinet Cyngor Powys gyda chyfrifoldeb am briffyrdd:

''Rydym yn deall fod y gwaith wedi creu anghyfleustra i'r gymuned yn lleol ac fe hoffwn ddiolch i drigolion a busnesau am eu hamynedd tra roedd y gwaith yn cael ei gwblhau.

"Dydy'r penderfyniad i gau pont am amser maith ddim yn un hawdd ond roedd y gwaith yn hanfodol.

"Heb y gwaith yma fe fyddai'r cyngor wedi gorfod cyfyngu pwysau cerbydau ar y bont, neu ei chau yn gyfan gwbl yn y dyfodol.''

Yn ôl y cyngor, fe fydd y bont yn ailagor yn ystod y mis nesaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.