Adam Jones am aros yng Nghymru?

Adam Jones Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Adam Jones yn gobeithio y bydd ei ddyfodol yn edrych y gliriach yn y dyddiau nesa' ac y bydd o'n aros yng Nghymru, yn fwy na thebyg.

Fe fydd cytundeb y prop pen-tyn gyda'r Gweilch yn dod i ben fis Mai.

Mae o'n un o'r chwech o chwaraewyr sydd wedi ei ystyried am gytundeb canolog gydag URC.

Dydy Jones heb gadarnhau gyda phwy fydd o'n arwyddo, ond mae'n gobeithio cytuno'n fuan.

Yn ei golofn i wefan chwaraeon y BBC, dywedodd: "Yn fwy na thebyg, fe fyddai'n aros yng Nghymru."

Ynghanol yr anghydfod dros y gêm rhanbarthol a phryder ariannol, Jones yw'r unig aelod blaenllaw o garfan Cymru i beidio ag arwyddo cytundeb hyd yn hyn.

Ond mae seren y Llewod yn dweud ei fod o'n gobeithio datrys hynny yn y man.

"Gobeithio y bydda'i wedi sortio popeth yr wythnos 'ma [yn nhermau dyfodol fy nghytundeb]," meddai.

"Ond dw'i wedi bod yn gobeithio hynny ers mis, felly dw'i ddim yn croesi 'mysedd.

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Leigh Halfpenny yn chwarae i Toulon yn nhymor 2014-15

"Mae'n llusgo rhyw fymryn nawr. Mae'n rhaid i fi wneud yn siwr fod popeth yn iawn, ond gobeithio, yr wythnos hon, gyda lwc, fe fydd wedi ei sortio cyn y penwythnos."

Roedd Jones ymysg y chwe chwaraewr gafodd eu nodi gan URC, y bydden nhw'n hoff o'u gweld yn aros yng Nghymru.

O'r rheiny, dim ond capten Cymru, Sam Warburton, sydd wedi arwyddo cytundeb canolog gyda'r undeb.

Mae'r lleill wedi arwyddo cytundebau newydd gyda chlybiau - Rhys Priestland a Scott Williams yn aros gyda'r Scarlets ac Alun Wyn Jones yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gweilch.

Leigh Halfpenny yw'r unig un o'r chwech i ddewis gadael Cymru. Fe fydd o'n chwarae i Toulon yn nhymor 2014-15.

Straeon perthnasol