Casnewydd 1 - 2 AFC Wimbledon

Daeth y gêm rhwng Casnewydd ac AFC Wimbledon yn fyw yn yr hanner awr olaf gyda'r timau yn sgorio tair gôl yn chwarter ola'r gêm.

Ar yr egwyl, 0 - 0 oedd y sgôr.

Ar yr awr, fe eiliodd Casnewydd gyda Howe a Jeffers yn dod ymlaen i'r cae yn lle Jolley a Zebroski.

Funudau yn ddiweddarach, aeth Casnewydd ar y blaen gyda golwr AFC Wimbledon, Ross Worner yn gwneud camgymeriad tra roedd Casnewydd yn pwyso.

Tarodd Wimbledon yn ôl gyda chwe munud yn weddill o'r gêm, ac fe sgoriodd un o'u heilyddion, Charlie Sheringham, gydag ergyd yn agos iawn i'r gôl.

Gydag amser yn diflannu, cipiodd Wimbledon y gêm gyda Kevin Sainte-Luce yn sgorio gydag ergyd i waelod y gornel dde o ganol y cwrt cosbi.

Mae'r canlyniad yn gadael Casnewydd yn y nawfed safle ar 42 o bwyntiau.