Richard Hibbard yn dweud fod curo Lloegr yn 2013 yn amherthnasol

Bachwr Cymru Richard Hibbard Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Meddai Hibbard, mae Lloegr wedi gwneud argraff arno ers iddyn nhw golli i 26-24 yn Ffrainc yng ngêm gynta'r bencampwriaeth

Fydd buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013 ddim yn dylanwadu ar y gêm yn Twickenham ar Mawrth 9 yn ôl achwr Cymru, Richard Hibbard.

Fe drechodd Cymru Loegr 30-3 yn Stadiwm y Mileniwm y llynedd.

Fe fydd rhaid i Gymru ennill y gêm er mwyn aros yn y ras i gipio'r bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol. Gallai Lloegr ennill y Goron Driphlyg a'r bencampwriaeth.

"Mae pob gêm yn wahanol, ac mae'n rhaid meddwl am bob un yn ei thro," meddai Hibbard.

"Mae pencampwriaeth y llynedd yn hollol wahanol i hon. Fe fydd y gêm yn gorfforol ac yn heriol."

Buddugoliaeth hanesyddol

Fe ddaeth Cymru'n ôl i drechu Ffrainc eleni wedi canlyniad siomedig yn erbyn Iwerddon.

Roedd hi'n fuddugoliaeth hanesyddol am i Gymru guro'r Ffrancwyr o 27-6, y bwlch mwyaf erioed.

Yn y cyfamser, daeth Lloegr â breuddwyd Camp Lawn Iwerddon i ben gan guro'r Gwyddelod 13-10 yn Twickenham.

Meddai Hibbard, mae Lloegr wedi gwneud argraff arno ers iddyn nhw golli i 26-24 yn Ffrainc yng ngêm gynta'r bencampwriaeth.

"Maen nhw'n chwarae'n dda iawn ar y funud, roedden nhw'n anlwcus i beidio ennill yn Ffrainc," meddai.

"Ers hynny, maen nhw'n wedi cael dau ganlyniad gwych, felly mae hi am fod yn gêm heriol iawn yn erbyn tîm medrus sy'n chwarae'n dda."

Rhybudd

Roedd rheolwr Cymru, Warren Gatland wedi rhybuddio'r garfan, yn enwedig y blaenwyr, eu bod nhw angen perfformio yn erbyn Ffrainc er mwyn achub eu gyrfaoedd gyda'r tîm cenedlaethol.

Dywedodd Hibbard fod yn rhaid i'r chwaraewyr ymateb wedi sylwadau Gatland.

"Fe gawson ni'n herio gan yr hyfforddwyr ar ôl Iwerddon, ac roedd rhaid i ni ymateb."

"Fe berfformiodd y garfan i gyd, o 1 i 23, yn dda yn Ffrainc ac fe ddangoson ni i'r hyfforddwyr beth oedden nhw wedi bod yn chwilio amdano.

"Fe wnaeth Gatland ein bygwth ni i gyd gyda hynna (y gêm ola' i Gymru) ac fe siaradodd e gyda ni i gyd yn unigol am ei ddisgwyliadau."

Straeon perthnasol