Angen edrych eto ar gyllido Cymru?

Barnett
Image caption Yr Arglwydd Barnett roddodd ei enw i'r fformiwla sy'n cael ei defnyddio i benderfynu maint grant Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae angen edrych eto ar y ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido - a hynny cyn etholiad cyffredinol 2015 - yn ôl y Pwyllgor Materion Cymreig.

Maen nhw hefyd yn credu bod angen i San Steffan esbonio'n union sut y byddai datganoli treth incwm yn effeithio ar faint o arian mae Cymru'n ei dderbyn drwy gyfrwng y grant bloc blynyddol.

Yn ogystal, maen nhw'n cytuno y dylai'r Cynulliad fod â'r pŵer i bennu hyd ei thymhorau ei hun, yn hytrach na bod San Steffan yn penderfynu drostynt fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Mae'r hyn mae'r pwyllgor yn ei ddweud am yr effaith gallai'r mesur ei gael ar faint o arian mae Cymru'n ei dderbyn bob blwyddyn fel grant gan San Steffan yn adleisio'r hyn mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi bod yn ei ddweud.

Mae Mr Jones wedi dadlau na ddylid datganoli treth incwm heb ddiwygio'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu gyntaf.

Mae'r pwyllgor yn nodi eu barn mewn adroddiad gafodd ei lunio o ganlyniad i'r sesiynau i graffu ar y Mesur Drafft Cymru.

Cam clo yn hollti barn

Image caption Mae Andrew RT Davies yn gryf yn erbyn y cam clo

Fe fethodd yr aelodau â chytuno ar un pwynt, sef a ddylai'r pŵer i godi treth incwm gael ei gyfyngu gan yr hyn sy'n cael ei alw'n rheol "cam clo".

Fe wnaeth Hywel Williams o Blaid Cymru a Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio o blaid cael gwared â'r cymal o'r Mesur Cymru, ond fe wnaeth yr ASau Ceidwadol bleidleisio yn erbyn.

Wnaeth yr aelodau Llafur ddim pleidleisio y naill ffordd na'r llall.

Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud: "Fel pwyllgor, fe glywon ni ystod amrywiol o safbwyntiau ynglŷn â rhinweddau cynnwys y "cam clo", sydd yn rhan o'r model treth incwm sy'n rhan o'r mesur.

"Roedd y rhan fwyaf o'r tystion i'r ymchwiliad eisiau cael gwared ar y cam clo. Rydym yn derbyn bod llai o werth mewn datganoli pŵer fydd ddim cael ei ddefnyddio.

"Er hynny, rydym yn cydnabod y budd ddaw o ddatganoli treth incwm er mwyn rhoi mwy o bwerau benthyg i Lywodraeth Cymru."

Mae'r mater wedi hollti barn o fewn y blaid Geidwadol yng Nghymru, gyda'r Arweinydd Andrew RT Davies yn rhoi sac i bedwar aelod o'i fainc flaen am beidio ei gefnogi ar y mater.

Mae Mr Davies eisiau gweld y pŵer dros godi treth incwm yn cael ei ddatganoli heb gyfyngiadau, fyddai'n galluogi i Lywodraeth Cymru amrywio bandiau treth incwm gwahanol ar wahân.

Dyw'r sefyllfa o fewn y Blaid Lafur ddim yn eglur chwaith, gyda rhai yn dweud fod gwahaniaeth barn yn bodoli rhwng y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith.

Cymru dan anfantais?

Image caption Yr AS Ceidwadol, David Davies, yw Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, David Davies: "Bydd rhaid i unrhyw bwerau newydd gael eu rhoi gerbron pobl Cymru mewn refferendwm, ac mae'n rhaid gwneud yn glir yn union pa bwerau ychwanegol allai gael eu datganoli yn y dyfodol os yw'r refferendwm yn cael ei basio.

"Er enghraifft, os byddai'r model treth incwm yn cael ei newid.

"Rydym hefyd yn credu bod achos yn bodoli dros ddadlau na ddylid datganoli pwerau dros drethi cyn i'r mater o sut mae'r fformiwla sy'n cael ei defnyddio i gyllid Cymru cael ei setlo.

"Os yw'r pŵer i gasglu trethi penodol yn cael ei ddatganoli i Gymru, bydd y grant bloc yn cael ei ostwng, a ddylai hyn ddim rhoi Cymru dan anfantais, fel mae'r fformiwla bresennol yn ei wneud."

Yn ystod y cyfnod craffu, bu aelodau o'r pwyllgor yn gwrando ar dystiolaeth gan nifer o arbenigwyr, gan gynnwys Richard Wyn Jones a Gerry Holtham, yn ogystal ag arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad.

Straeon perthnasol