UKIP yn paratoi am etholiadau Ewrop

Nathan Gill
Image caption Daeth Mr Gill yn drydydd yn isetholiad Cynulliad Ynys Môn yn 2013

Mae prif ymgeisydd Cymreig UKIP wedi canolbwyntio ar y pryderon am fewnfudo a rheoliadau Ewropeaidd yn ei araith i gynhadledd Brydeinig y blaid ddydd Gwener.

Dywedodd Nathan Gill yn Torquay mai dyma'r prif faterion yn ymgyrch Etholiad Ewrop UKIP.

"Rydym wedi bod ledled Cymru yn siarad gyda phobl ar y strydoedd, yn cnocio ar ddrysau ac mae'r adborth yn bositif iawn, iawn," meddai Mr Gill

"Mae pobl yn gwybod mai am yr Undeb Ewropeaidd mae'r etholiad yma ...

"Mewn etholiadau eraill rydym yn clywed pobl yn dweud: 'Rhowch y gorau i siarad am Ewrop a mewnfudo' ond hwn yw'r etholiad lle gallwn ni sôn am y materion hyn.

'Wedi cael digon'

"Mae pobl wedi cael digon ar y status quo a'r ffordd mae pethau wedi bod yn digwydd am flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Maen nhw'n gweld bod drws agored a mewnfudo diderfyn. Hyd yn oed yma yng Nghymru mae pobl wedi cael digon."

Enillodd y blaid ei sedd Gymreig gyntaf yn Etholiad Ewrop 2009.

Mae UKIP wedi dweud mai eu huchelgais yw ennill yr etholiad yng Nghymru.

Straeon perthnasol