Ben Davies: Yr Elyrch 'yn hyderus'

Arbed ergyd Wilfried Bony Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd yn ddisgôr yn y cymal cynta'

Mae amddiffynnwr Abertawe Ben Davies wedi dweud bod y clwb yn hyderus y byddan nhw'n trechu Napoli yng Nghynghrair Ewropa nos Iau.

Fe greodd y Cymry argraff oherwydd y sgôr oedd 0-0 yn Stadiwm y Liberty yn y cymal cynta' ar Chwefror 20.

Bydd Abertawe'n falch na ildion nhw gôl yn erbyn un o dimau gorau'r Eidal ac Ewrop.

"Mae gobaith gyda ni," meddai Davies.

"Yn sicr, mae'n mynd i fod yn galed ond rwy'n credu y byddwn ni'n ennill.

"Does dim pwysau arnon ni o gwbwl."

Os yw Abertawe'n llwyddo fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn Porto neu Eintracht Frankfurt.

Ond mae Napoli wedi trechu Arsenal 2-0 yn Stadio San Paolo yng ngemau rhagarweiniol Cynghrair y Pencampwyr.