Napoli 3-1 Abertawe

Abertawe'n dathlu Image copyright Arall
Image caption Abertawe'n dathlu ar ôl hanner awr oherwydd ergyd de Guzman

Roedd ergyd i obeithion Abertawe wrth i Napoli ennill o 3-1 yn Ne'r Eidal yn ail gymal Cynghrair Ewropa nos Iau.

Ar ôl 17 munud ergydiodd Lorenzo Insignie i'r Eidalwyr ac aeth y bêl dros ben Michel Vorm ac i mewn i'r rhwyd.

Y tro hwn roedd amddiffyn Abertawe yn wael ar ochor dde'r cae ac Ashley Williams y capten yn grac iawn gydag aelodau eraill y tîm.

Wedyn ar ôl hanner awr chwalodd amddiffyn Napoli wrth i Jonathan de Guzman sgorio. Roedd ymateb golwr Napoli Pepe Reina yn wangalon a dweud y lleia'.

Ar yr egwyl roedd hi'n 1-1 a Stadiwm y San Paolo fel y bedd.

Yn yr ail hanner peniodd Wilfried Bony - ond yn syth at Pepe Reina.

Pan oedd 12 munud yn weddill roedd ergyd i obeithion Abertawe pan sgoriodd Gonzalo Higuain.

Yn y funud ola' seliodd Gokhan Inler y fuddugoliaeth i'r Eidalwyr er nad oedd y sgôr derfynol yn adlewyrchiad teg o'r chwarae ar y cae.

Aeth 890 o gefnogwyr o dde Cymru i dde'r Eidal a gwylio perfformiad arwrol.

Er bod y freuddwyd ar ben roedd hi'n ymgyrch i'w chofio.

Image copyright Arall
Image caption Y gôl gynta': Lorenzo Insignie

Straeon perthnasol