Cosbau budd-daliadau 'wedi treblu' yng Nghymru

arwydd canolfan byd gwaith
Image caption Mae'r Adran Waith a Phensiynau yn dweud bod Canolfannau Gwaith 'yno i helpu'

Mae nifer y bobl sy'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yng Nghymru gafodd eu cosbi neu eu rhwystro rhag derbyn y budd-dal, wedi treblu ers 2004.

Yn y 12 mis yn arwain at fis Medi 2004, roedd 12,000 cosb i bobl oedd yn hawlio LCG yng Nghymru, yn ôl dadansoddiad gan Dr David Webster, arbenigwr ar natur budd-daliadau.

Ond dangosodd ffigyrau gan yr Adran Waith a Phensiynau bod y nifer hwnnw wedi cynyddu i 40,090 yn y deuddeg mis at Fehefin 2013.

Mae'r cosbau'n cynnwys:

  • Gohirio taliadau LCG os nad yw'r person yn ateb meini prawf y budd-dal;
  • Dod â'r taliadau i ben yn gyfan gwbl.

Dywedodd llywodraeth San Steffan bod dod â budd-daliadau gwaith i ben yn annog pobl i ddefnyddio'r gefnogaeth sydd ar gael gan Ganolfannau Gwaith.

'Cosbi'n rhy aml'

Ond yn ôl beirniaid, mae rhai sy'n hawlio LCG yn cael eu cosbi'n rhy aml oherwydd gwendidau yn y system. Maen nhw'n poeni mai diffyg incwm yw'r rheswm am y cynnydd y defnydd o fanciau bwyd.

"Mae cynnydd enfawr wedi bod yn y cosbau," meddai Dr David Webster o Brifysgol Glasgow wrth raglen Eye on Wales ar Radio Wales.

"'Dy chi'n siarad am fwy na threblu'r nifer o gosbau. Mae pobl sy'n cael eu cosbi, pobl heb gefnogaeth, maen nhw'n llwgu.

"Mae hon yn system sy'n cael ei gweithredu gan is-swyddogion. Mae'n gyfrinachol, does 'na ddim cynrychiolaeth gyfreithiol, ac mae'n digwydd oherwydd diffyg gwaith papur. Mae popeth am y system yn anfoddhaol wrth ei gymharu â'r system gyfreithiol gywir."

Gall rhan o'r cynnydd sydd wedi ei nodi gan Dr Webster fod oherwydd y cynnydd yn y nifer sy'n hawlio'r budd-dal, ond cynnydd yn y nifer o gosbau yw'r rheswm pennaf.

Yn ystod amser y llywodraeth Lafur ddiwethaf, roedd 2.5% o rai oedd yn derbyn LCG yn cael eu cosbi bob mis. Ers i'r llywodraeth bresennol ddod i rym, mae'r nifer wedi cynyddu i 4.5%.

Para'n hirach

Yn ogystal, gall y cosbau bara yn hirach nag erioed o'r blaen. Yn yr achosion mwyaf difrifol, lle mae rhywun yn "troseddu ar lefel uchel yn gyson", gall cosb bara am dair blynedd.

Fe ysgrifenodd Paul Gregg arolwg o amodoldeb budd-daliadau i'r llywodraeth Lafur yn 2008. Dywedodd wrth Eye on Wales y dylai'r cynnydd yn y nifer o gosbau beri pryder.

"Mae 'na resymeg yn y fan hon - 'dy chi angen bygythiad, 'dy chi angen y gansen, ond 'dy chi ddim eisiau ei defnyddio hi. Yn bendant, 'dy chi ddim eisiau ei defnyddio hi pan nad ydy pobl yn deall y system neu'n methu ag ufuddhau am resymau teg."

Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau eu bod nhw'n gwneud eu gorau i roi gwybod i bobl am oblygiadau hawlio budd-daliadau, a beth fydd yn digwydd os nad ydyn nhw'n ateb y gofynion.

'Adeiladu economi gryfach'

"Bob dydd, mae ymgynghorwyr y Canolfannau Gwaith yn symud pobl o fyd budd-daliadau i fyd gwaith yn llwyddiannus yn rhan o gynllun y llywodraeth i adeiladu economi gryfach.

"Dylai pobl sy'n hawlio budd-daliadau wneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd i waith os ydy hynny o fewn eu gallu. Os daw i'r pen, yna dylid defnyddio cosbau, a gall unrhywun sy'n anghytuno apelio."

Mae Dr Webster yn credu bod y cosbau'n cael eu defnyddio'n fympwyol, heb wybodaeth glir na chyfathrebu. Dywedodd bod y risg yn fwy amlwg i'r digartref, rhai ag anableddau dysgu neu broblemau meddyliol.

Pôl piniwn

Mae canlyniadau pôl piniwn BBC Cymru'n awgrymu bod bron i hanner oedolion Cymru'n credu nad ydy llywodraeth San Steffan yn ddigon llym, ac y dylid gwneud mwy i orfodi rhai sy'n derbyn budd-dal i weithio.

Roedd 45% o'r rhai gafodd eu holi ar gyfer pôl blynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn dweud nad oedd y llywodraeth yn ddigon llym.

Yn ô 27%, roedd y llywodraeth yn rhy llym a 22% yn dweud bod y polisi budd-daliadau presennol fwy neu lai yn iawn.

Dywedodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd fod y canlyniadau'n dangos "eitha' tipyn o gymeradwyaeth gan gefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru yn ogystal â phleidleiswyr Ceidwadol.

"Dim jyst Ceidwadwyr neu Ddemocratiaid Rhyddfrydol sy'n cefnogi'r polisi presennol. Mae 'na lefelau eitha' uchel o gefnogaeth drwyddi draw."

Bydd rhagor am y pôl ar Sunday Politics Wales ar BBC One Wales am 11.00 fore Sul, Mawrth 2.

Mae Eye on Wales yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Wales am 1.30pm b'nawn Sul, Mawrth 2.