Henffordd 0 - 2 Wrecsam

Logo Wrecsam

Henffordd 0 - 2 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi curo Henffordd 2-0 oddi cartref yng Nghynghrair Skrill brynhawn Sadwrn.

Johnny Hunt roddodd y Dreigiau ar y blaen wedi 10 munud.

Chwarter awr wedi iddo ddod ar y cae, fe rwydodd yr eilydd Robert Ogleby i Wrecsam funudau cyn hanner amser gan ddyblu eu mantais.

Roedd yr ail hanner yn ddistawach o ran goliau, ond fe ddangosodd y dyfarnwr gerdyn melyn i Stephen Wright a Neil Ashton (Wrecsam) a Dominic Collins (Henffordd) tua diwedd y gêm am ffowlio.