Zebre 15 - 10 Gleision

Rory Watts Jones Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image caption Treuliodd Rory Watts-Jones ddeng munud yn y gell gosb yn ystod y gêm

Siom gafodd y Gleision yn y Pro 12 brynhawn Sadwrn, wedi iddyn nhw golli 15-10 yr erbyn Zebre yn yr Eidal.

Dyma'r eildro iddyn nhw golli yn erbyn yr Eidalwyr y tymor hwn, a'r trydydd tro yn unig i Zebre ennill gêm yn y Pro 12.

Fe sgoriodd Zebre ddwy gais - Brendan Leonard a Giulio Toniolatti - yn yr hanner cynta'.

Daeth cic gosb Gareth Davies â'r sgor i 12-3 ar yr hanner.

Fe gafodd y Gleision drafferthion yn ardal y dacl, gan roi'r fantais i Zebre yn aml. Fe dreuliodd Rory Watts-Jones, blaenasgellwr y Gleision, ddeng munud yn y gell gosb wedi 16 munud.

Cafodd Filippo Ferrarini (Zebre) gerdyn melyn wedi hanner awr, a threuliodd weddill yr hanner cyntaf yn y gell gosb.

Roedd mwy o siap ar y Gleision ddechrau'r ail hanner - fe sgoriodd Tom Williams gais ddaeth â'r ymwelwyr o fewn dau bwynt.

Ond fe sicrhaodd cic gosb gan Orquera wedi 65 munud y fuddugoliaeth i Zebre.

Yn y funud ola', fe groesodd Harry Robinson y llinell i'r Gleision, ond cafodd y gais ei gwahardd oherwydd rhwystro yn y ryc.