Scarlets 18-13 Munster

Jonathan Davies Image copyright Huw Evans picture agency

Fe sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth dros Munster yn y Pro12 nos Sadwrn.

Gareth Davies sgoriodd gais gynta'r Scarlets yn ystod yr hanner cynta'.

Munster oedd ar y blaen ar yr hanner wedi i gamgymeriad arwain at gais gan Gerhard van den Heever.

Yn yr ail hanner, rhoddodd cais John Barclay y tîm cartref yn ôl ar y blaen ar Barc y Scarlets, cyn i ail gais van der Heever i Munster gael ei gwahardd.

Fe chwaraeodd y canolwr Jonathan Davies 64 munud i'r Scarlets cyn i Gymru deithio i Twickenham i herio Lloegr ym mhencampwriaeth y chwe Gwlad ddydd Sul nesa'.

Mae Munster yn parhau ar frig y Pro12, a'r Scarlets yn safle rhif chwech.