Cyhoeddi ail ran adroddiad datganoli

Paul Silk
Image caption Mae ail ran adroddiad Paul Silk yn gwneud nifer o argymhellion

Dylid datganoli'r system gyfiawnder i Gymru, gam wrth gam, yn ôl adroddiad ar bwerau'r Cynulliad.

Fe ddylai llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o bwerau'r heddlu, meddai Comisiwn Silk, yn ogystal â rhagor o bwerau dros ynni.

Mae'r adroddiad yn galw am ddatganoli cyfiawnder ieuenctid ar unwaith ac am edrych ar pa mor ymarferol fyddai ddatganoli carchardai a gwasanaethau prawf.

Dylai arolwg o agweddau eraill y system gyfiawnder gael ei gwblhau erbyn 2025.

Roedd y rhan fwyaf o dystiolaeth o blaid datganoli'r heddlu yn gweld y cynllun fel ffordd i ddod â'r gwasanaeth ynghŷd â gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Ond mae'n dweud na ddylid datganoli cyfrifoldeb dros yr Asiantath Drosedd Genedlaethol (NCA), na phwerau ynglŷn ag arestio, holi a chyhuddo rhai dan amheuaeth, os nad yw cyfraith droseddol yn cael ei ddatganoli, hefyd.

Er bod yr adroddiad yn dweud fod angen rhagor o Aelodau Cynulliad, dydy'r ddogfen ddim yn manylu ar nifer.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi dweud y bydd rhai o'r argymhellion yn cael eu gweithredu cyn 2015.

Aelodau Cynulliad

Fe arweinodd yr adroddiad cyntaf at ragor o bwerau treth a benthyg i Lywodraeth Cymru.

Wedi arolwg blwyddyn o hyd, roedd canfyddiadau'r comisiwn yn cynnwys:

  • Bod y cytundeb presennol yn rhy gymhleth i bobl ddeall pwy oedd gan y pŵer;
  • Bod angen i lywodraethau a sefydliadau weithio'n well gyda'i gilydd;
  • Bod cefnogaeth gref dros ddatganoli rhagor o bwerau.

Mae'r ail adroddiad yn cynnig amserlen "realistig" ddeng mlynedd o hyd - yn cynnwys deddfau ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf - a 61 o argymhellion i greu "cytundeb datganoli clir a chadarn".

Dylai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros ynni gynyddu o brosiectau 50MW i rai 350MW.

Diffinio pwerau

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell newid y ffordd mae pwerau'r Cynulliad yn cael eu diffinio.

Byddai model pwerau a gedwir yn ôl - system debycach i'r Alban - yn rhestru'r pwerau sydd heb eu datganoli, nid y rhai sydd wedi eu datganoli.

Yn ôl cefnogwyr, byddai hyn yn gwneud pwerau'r cynulliad yn gliriach ac yn haws i'w deall.

Meddai cadeirydd y Comisiwn, Paul Silk: "Mewn cyfnod pan fo materion cyfansoddiadol tua brig yr agenda yn y Deyrnas Unedig, yr ydym wedi cytuno ar argymhellion a fydd yn darparu setliad datganoli sefydlog a chadarn ei seiliau, ac addas ar gyfer y dyfodol.

"Bydd yn rhoi setliad parhaol i Gymru a fydd yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud mewn ffordd ddemocrataidd ac atebol.

"Drwy raglen ddeng mlynedd o ddiwygio graddol, bydd yn creu democratiaeth gryfach yng Nghymru, ac yn dod â Chymru yn nes at batrwm gwledydd datganoledig eraill y DU.

"Pleser o'r mwyaf gennym felly yw cyflwyno ein hadroddiad, y cytunwyd yn unfrydol yn ei gylch, i Lywodraeth y DU ei weithredu."

Mwy o eglurdeb?

Mae'r Athro Richard Wyn Jones, cadeirydd y prosiect Undeb Sy'n Newid yn cytuno y byddai system o bwerau wedi eu cadw yn well ar gyfer Cymru.

Meddai: "Mae hwn yn fodel o ddatganoli fydd yn darparu llawer mwy o eglurdeb ynglŷn â pha bwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru.

"Mi wnaiff hyn symleiddio'r broses o ddatganoli, nid yn unig ar gyfer gwleidyddion, ond ar gyfer cymdeithas sifil a'r cyhoedd yn gyffredinol."

Ond mae'r sefydliad gwrth-ddatganoli Y Gwir Gymru, gafodd ei sefydlu er mwyn brwydro o blaid pleidlais Na yn refferendwm 2011, yn honni fod y newidiadau yn "annilys".

Mewn datganiad, fe ddywedon: "Ddwy flwyddyn ar ôl diwrnod y refferendwm, mae'n anhygoel gweld comisiwn yn argymell bob un o'r newidiadau radical roedden ni wedi eu rhagweld ar ôl pleidlais Ie, gan gynnwys y model o bwerau wedi eu cadw.

"Mae'r setliad datganoli yn mynd i gael ei ehangu'n sylweddol ymhell tu hwnt i be wnaeth 35% o etholwyr gytuno iddo nôl ar ddydd Iau, 3 Mawrth 2011.

Rhagor o argymhellion

Ymysg rhai o argymhellion eraill yr adroddiad, mae datganoli rhagor o bwerau dros reilffyrdd a phorthladdoedd, a chynnig i roi pwerau deddfu i Lywodraeth Cymru dros bolisi dŵr.

Mae'n dweud y dylai pwerau rheoleiddio darlledu aros yn San Steffan. Er hyn, mae'r adroddiad yn argymell creu corff datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC, ac yn dweud y dylai nawdd llywodraeth San Steffan i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal, mae'r comisiwn yn credu y dylai lywodraeth y DU barchu dymuniad y Cynulliad i newid ei enw i Senedd, petai hynny'n cael ei benderfynu gan yr aelodau.

Dydy'r adroddiad ddim yn argymhell y dylid rhoi unrhyw bwerau'n ôl i San Steffan.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.