Damwain farwol: Apêl am dystion

Bu farw dynes 91 oed yn dilyn damwain ffordd yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y ddynes yn teithio mewn car Suzuki Alto coch gyda dynes 89 oed, a bu'r car mewn gwrthdrawiad gyda Ford Focus llwyd yn Llandeilo tua 11.40am ddydd Sul.

Fe gafodd y ddwy ddynes o ardal Llandeilo anafiadau difrifol ac aed â nhw i Ysbyty Treforys lle bu farw'r ddynes 91 oed.

Mae'r heddlu yn apelio am i unrhyw un a welodd y ddamwain ar y gyffordd rhwng Ffordd y Bont a Ffordd yr Eglwys i gysylltu â nhw.

Bu'r A483 trwy Llandeilo ar gau am oriau yn dilyn y ddamwain.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.