Becky James yn drydydd yn y ras Keirin yng Ngholombia

Becky James
Image caption Daeth Becky James yn drydydd y tu ol i Kristina Vogel ac Anna Meares yn y ras Keirin

Mae'r Gymraes Becky James wedi methu ag amddiffyn ei theitl yn y ras Keirin ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac y Byd, wrth iddi orffen yn drydydd yng Ngholombia.

Enillodd James, sy'n 22 oed ac o'r Fenni, y fedal aur y llynedd ym Minsk.

Ond Kristina Vogel o'r Almaen enillodd y ras eleni, gydag Anna Meares o Awstralia yn yr ail safle a James yn drydydd.

Dywedodd James ei bod yn "hapus iawn" ar ddiwedd y ras.

"Mae yn siomedig i beidio ennill ond mae Kristina Vogel wedi bod yn sydyn iawn drwy'r tymor. Roedd hi'n ei haeddu," meddai.

Dywedodd ei bod hi'n paratoi nawr at Gemau'r Gymanwlad ym mis Gorffennaf, lle bydd yn cystadlu dros Gymru.

"Dwi wedi ymlacio fwy'r flwyddyn yma.

"Roedd hi'n wych cael ennill yr holl fedalau yna y llynedd ond mewn ffordd mae'n braf cael y canlyniad yma gan fod gymaint mwy i weithio tuag ato rŵan.

"Galla'i ddim aros i ddechrau hyfforddi eto."

Roedd medal hefyd i aelod arall o dîm Prydain ar ddiwrnod olaf y Bencampwriaeth, wrth i Laura Trott ennill y fedal arian yn yr omnium.

Ond siomedig oedd pencampwriaeth y Cymro Owain Doull, wrth iddo a'i bartner, Jon Dibben orffen yn y 15fed safle yng nghystadleuaeth y Madison.

Straeon perthnasol