Nifer y bobl a gafodd eu geni dramor wedi codi 82%

Border control Image copyright PA
Image caption Mae nifer y bobl a gafodd eu geni dramor sy'n byw yn Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd wedi mwy na dyblu yn y cyfnod rhwng 2001 a 2011.

Mae nifer y bobl sy'n byw yng Nghymru a gafodd eu geni dramor wedi cynyddu 82% dros y degawd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd.

Mae ffigyrau Arsyllfa Ymfudo Prifysgol Rhydychen rhwng 2001 a 2011, yn dangos bod hyn tipyn mwy ar gyfartaledd na'r cynnydd yn Lloegr (61%) a Gogledd Iwerddon (72%) ond yn llai na'r Alban (93%).

Ym Merthyr Tudful y gwelwyd yr ail gynnydd mwyaf o ran canran ym mhoblogaeth fudol unrhyw ardal neu awdurdod yn y DU (227%).

Roedd cynnydd o 168% yn Wrecsam hefyd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud sylw.

5.5% wedi'u geni dramor

Yn y cyfnod rhwng 2001 a 2011, fe wnaeth poblogaeth ymfudwyr Abertawe a Chasnewydd fwy na dyblu, gyda phoblogaeth fudol Caerdydd yn cynyddu 99% i 45,967 - poblogaeth fudol sengl fwyaf Cymru.

Yn Nhorfaen oedd y cynnydd lleiaf o ran niferoedd (651) a chanran (36.3%).

Ond, mae'r ymchwil hefyd yn dangos mai yng Nghymru mae'r gyfran isaf o bobl gafodd eu geni dramor (5.5%) o unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Roedd cyfran Lloegr yn 13.8%, Yr Alban yn 7% a Gogledd Iwerddon yn 6.6%. 13% oedd cyfartaledd y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Nifer siaradwyr Saesneg

Roedd oddeutu 97% o boblogaeth Cymru'n siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith.

O'r 2.9% (84,436) nad oedd, roedd 77% yn medru siarad Saesneg yn dda neu'n dda iawn.

4% yn unig oedd yn methu siarad Saesneg o gwbl, lefel o allu siarad Saesneg fymryn yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr.

Dywedodd y Dr Carlos Vargas-Silva, yr Uwch Ymchwilydd oedd yn arwain prosiect y cyfrifiad yn yr Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen: "Y newid mwyaf oedd y cynnydd yn y boblogaeth a anwyd yng Ngwlad Pwyl - mae'n fwy nag ugain gwaith yr hyn oedd yn flaenorol, a dyma'r grwp mudol mwyaf yng Nghymru erbyn hyn.

"Mae hyn wedi bod yn hynod amlwg ym Merthyr Tudful a welodd yr ail gynnydd mwyaf o ran canran yn ei phoblogaeth fudol yn y DU.

"Ond mae'n werth nodi mai gan Gymru y mae'r gyfran leiaf o ymfudwyr yn ei phoblogaeth o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

"Oherwydd i Gymru ddechrau gyda phoblogaeth fudol lawer llai na Lloegr - o ran niferoedd a'i chyfran o'r boblogaeth yn gyffredinol - gall twf llai o ran niferoedd fod yn dwf sylweddol fwy o ran canran.

"Er gwaethaf hynny, bu cynnydd mawr ym mhoblogaeth fudol Cymru, yn arbennig felly yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd."

Straeon perthnasol