Cynnig bonws Vincent Tan yn torri rheolau

Vincent Tan Image copyright BBC Sport
Image caption Mae Mr Tan yn ffigwr dadleuol ymysg cefnogwyr Caerdydd

Mae Uwch Gynghrair Lloegr wedi gofyn i glwb pêl-droed Caerdydd am esboniad, wedi adroddiadau bod y perchennog Vincent Tan wedi cynnig taliadau bonws i'w chwaraewyr, oedd yn torri rheolau.

Mae adroddiadau bod Mr Tan wedi cynnig £3.7 miliwn i chwaraewyr ar yr amod bod Caerdydd yn llwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Ond cafodd y cynnig ei dynnu'n ôl, unwaith y cafodd Mr Tan wybod fod taliadau o'r fath yn mynd yn erbyn rheolau'r gynghrair.

Dywedodd llefarydd ar ran y gynghrair eu bod wedi "gofyn i'r clwb am eu harsylwadau" ynghylch y mater.

Mae rheolau'r gynghrair yn dweud bod holl fanylion yr arian sy'n ddyledus i chwaraewyr o dan wahanol amgylchiadau angen cael eu nodi mewn cytundeb.

Mae Caerdydd yn yr 19eg safle ar hyn o bryd, dau bwynt y tu ôl Sunderland sydd â dwy gêm mewn llaw dros yr Adar Gleision.

Straeon perthnasol