Marwolaeth Llandysul: Arestio dyn

PATRICIA ANNE DURRANT Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Mae'r Heddlu yn apelio am wybodaeth am farwolaeth Patricia Anne Durrant

Mae heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth sydyn dynes 63 oed yn Llandysul wedi arestio dyn 59 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd swyddogion hyd i gorff Patricia Ann Durrant mewn eiddo yn Stryd Fawr y dre' fore Llun.

Mae'r dyn wedi ei gadw yn y ddalfa.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Fe fydd Uwch Grwner Ceredigion yn agor cwest i farwolaeth Ms Durrant yn Aberystwyth ddydd Gwener.

Straeon perthnasol