Gam yn nes at ysgol Gymraeg newydd yng Nghaerdydd?

Addysg Gymraeg
Image caption Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnig chwe safle i greu 60 o lefydd Cymraeg a 60 Saesneg

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud eu bod yn "symud ymlaen" gyda chynlluniau i ddelio gyda mwy o alw am addysg gynradd Gymraeg.

Yn ôl y cyngor, mae gwaith ymchwil yn dangos bod angen 60 o lefydd cyfrwng Cymraeg a 60 o lefydd cyfrwng Saesneg i wasanaethu ardaloedd Trebiwt, Treganna, Trelluest (Grangetown) a Glanyrafon.

Os bydd y cabinet yn cymeradwyo adroddiad y cyngor, gall swyddogion ddechrau ymgynghori gyda chymunedau ynglŷn â chwe safle posib i greu mwy o lefydd i blant.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am adeiladu ysgol Gymraeg gan fod rhai plant yn cael eu gorfodi i deithio yn bell i gyrraedd ysgol Gymraeg.

Chwe safle posib

Mae'r cyngor wedi clustnodi chwe safle posib sy'n golygu ehangu ysgolion neu adeiladu ysgolion newydd.

Y chwe safle sy'n cael eu hystyried er mwyn delio gyda'r galw yw:

  • Ysgol Gynradd Parc Ninian - troi estyniad dros dro yn un parhaol;
  • Neuadd y Sir - adeilad newydd ar dir i'r gogledd o'r neuadd;
  • Ysgol Gynradd Mount Stuart - ymestyn yr ysgol ar gaeau chwarae presennol;
  • Ysgol Gynradd Sant Cuthbert - ymestyn yr ysgol i dir ar Ffordd Letton;
  • Caeau chwarae Ysgol Y Wyryf Fair - ymestyn yr adeilad ar dir caeau chwarae;
  • Safle Canolfan Hamdden Channel View - adeiladu ysgol newydd ar y safle allai gynnwys cyfleusterau hamdden hefyd.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg a dysgu gydol oes, Julia Magill: "Mae darparu cyfleoedd addysg o safon uchel i blant a phobl ifanc Caerdydd yn flaenoriaeth i ni, a rhan o'r nod yw sicrhau ein bod ni'n defnyddio adnoddau i adeiladu rhagoriaeth mewn safonau addysg a sicrhau bod digon o lefydd yn yr ardaloedd iawn i ddelio gyda'r galw yn lleol.

"Mae ein hymchwil yn dangos y bydd y nifer o ddisgyblion sy'n dechrau mewn dosbarth derbyn yn parhau i gynyddu tan o leiaf Ionawr 2016.

'Dwywaith mor fawr'

"Rydyn ni angen delio gyda'r diffyg gyda 60 o lefydd cyfrwng Saesneg y flwyddyn yn Nhrelluest a 60 o lefydd cyfrwng Cymraeg y flwyddyn yn Nhrelluest a Threbiwt.

"Ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg, mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig ysgol ddwywaith mor fawr â'r un gafodd ei chynnig gan y weinyddiaeth flaenorol."

Image caption Mae ymgyrchwyr wedi galw am adeiladu ysgol Gymraeg newydd yng Nghaerdydd

Dywedodd y cyngor fod nifer o ffactorau wedi eu hystyried wrth benderfynu ar y chwe safle posib, gan gynnwys lleoliad a bod yn agos at ddisgyblion, effaith ar wasanaethau a chyfleusterau, materion traffig a thrafnidiaeth ac addasrwydd y safleoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Ychwanegodd y Cynghorydd Magill ei fod yn bwysig bod "trigolion yn y cymunedau a deiliaid diddordeb eraill yn rhan o'r datrysiad i ddod o hyd i'r lleoliad cywir i'r ysgolion".

Byddai ymatebion y cymunedau yn cael ei ddefnyddio i siapio unrhyw gynnig ffurfiol caiff ei wneud yn ddiweddarach eleni.

'Arbennig o wael'

Mae ymgyrchwyr wedi galw am adeiladu ysgol cyfrwng Gymraeg newydd yn ardal Trelluest ers tro.

Yn ôl ymgyrchwyr Ysgol Gymraeg i Trebiwt a Grangetown (TAG), mae'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardaloedd yno yn "arbennig o wael".

Mae TAG wedi dadlau bod y ddarpariaeth bresennol yn annheg gan fod plant sydd am gael addysg Gymraeg yn gorfod teithio yn bellach bob dydd.

Straeon perthnasol