Tân ysgol: Arestio dau fachgen

Mae dau fachgen wedi eu harestio wedi tân mewn ysgol ym Mangor.

Dywedodd yr heddlu fod y tân yn Ysgol Ein Harglwyddes nos Wener wedi ei gynnau'n fwriadol.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Er i'r adeilad gael ei ddifrodi'n sylweddol mae'r ysgol wedi ail-agor i bawb ac eithrio'r dosbarth meithrin.