Trin ucheldir Eryri i atal llifogydd

Mae arbenigwyr yn cyfarfod ar Fynydd Hiraethog ddydd Gwener i ddysgu am gynllun sydd yn trin tir mawnog yr ucheldir er mwyn ceisio lleihau'r perygl o lifogydd i diroedd isel yn y dyfodol.

Fel rhan o'r cynllun, bydd dros 40 milltir o ffosydd yn cael eu cau, a mieri yn cael eu clirio o safleoedd mawndirol yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri sy'n cynnwys Mynyddoedd y Berwyn, Mynydd Hiraethog, y Migneint a Chors Arthog ger Dolgellau.

Erbyn diwedd y cynllun, y nod yw adfer dros 450 hectar - sy'n cyfateb i 600 cae pêl droed - o wlypter.

Yn ôl Tim Jones o Gyfoeth Naturiol Cymru: ''Am ddegawdau lawer draeniwyd ardaloedd eang o'r math yma o ucheldir ac o ganlyniad, wrth lawio, byddai'r dŵr a syrthiai yn draenio'n gyflymach, gan gyrraedd nentydd ac afonydd a'u llethu a chyfrannu at lifogydd.

'Amsugno mwy o law'

''Mae rheoli'r ucheldiroedd hyn mewn ffordd wahanol yn golygu y gallan nhw ymddwyn fel sbwng, gan amsugno llawer mwy o law a'i ryddhau yn araf. Bydd hyn, nid yn unig yn rhoi rhediad araf a chyson o ddŵr i'r afonydd, ond bydd y dŵr hefyd o ansawdd gwell ar gyfer ein cyflenwadau yfed, pysgod a bywyd gwyllt.

''Bydd llai o bridd yn cael ei olchi i mewn i'r afonydd, gan leihau'r posibilrwydd o waddod yn atal yr afon rhag llifo.

Dywedodd Emyr Williams, Cyfarwyddwr Rheoli Tir Awdurdod y Parc: "Hyd yma rydan ni wedi llwyddo i reoli dŵr mewn 28 milltir o ffosydd, clirio 12 hectar o orgors a chyforgors. Byddwn yn gweithio ar reoli dŵr yn y 15 milltir o ffosydd sydd ar ôl yn ystod gaeaf nesaf.

''O ganlyniad bydd y cynllun yn cyfrannu at liniaru problemau llifogydd yn y dyfodol, bydd bioamrywiaeth yr ardal yn gwella, a bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael manteisio ar y carbon fydd yn cael ei storio yma.''

Mae Prosiect Adfer Mawndiroedd Eryri a Hiraethog yn brosiect rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB Cymru, Dŵr Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn ôl Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: "Rydym yn gwybod o'n gwaith yn RSPB Llyn Efyrnwy fod cau ffosydd nid yn unig yn dod â dŵr glân i ni ac yn storfa well i garbon, ond mae mawndiroedd gwlypach hefyd yn cynyddu nifer yr anifeiliaid heb asgwrn cefn sy'n ffynhonnell bwyd allweddol i fwyd gwyllt sydd o dan fygythiad, megis cornicyll y mynydd a'r gylfinir."