Wrecsam 0-0 Kidderminster

Wrecsam Image copyright Huw Evans picture agency

Wrecsam 0-0 Kidderminster

Di-sgôr oedd hi yn Wrecsam wrth i dîm Billy Barr groesawu Kidderminster i'r Cae Ras yn ngêm uwchgynghrair Skrill.

Callum Gittings gafodd gyfle gorau Kidderminster gyda chic o 12 llath, ond fe aeth y bêl dros y pyst.

Roedd cyffro mwya'r gêm pan anfonwyd Andy Bishop o'r cae am ffowl hwyr yn erbyn Gittings.

Dyma ail gerdyn coch Andy Bishop y tymor hwn.

Roedd yn golygu bod yn rhaid i Wrecsam chwarae gyda 10 dyn yn unig am weddill y gêm.

Bu bron i Wrecsam sgorio gôl hwyr ond fe gafodd y bêl ei harbed gan fysedd Daniel Lewis.

Bu Kidderminster yn gosod pwysau ar y tîm cartref ond fe wnaeth gôlgeidwad Wrecsam, Andy Coughlin, sawl arbediad llwyddiannus i gadw hi'n ddi-sgor.

Dyma oedd trydydd gêm Billy Barr yn rheolwr dros dro y tîm ac mae'n awyddus i gael cefnogaeth y chwaraewyr i ddatblygu'n reolwr llawn amser.

Mae Barr wedi bod yn rheoli ers i Andy Morrell adael.

Mae Wrecsam rwan yn y 15fed safle ar 47 o bwyntiau.