Caerdydd 3-1 Fulham

Caerdydd v Fulham Image copyright Getty Images

Caerdydd 3-1 Fulham

Mae Caerdydd yn dal yn y tri isaf yn yr Uwchgynghrair yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Fulham ddydd Sadwrn.

Roedd hi'n gêm llawn tensiwn a nerfau gan bod pwysau ar y ddwy ochr i ennill er mwyn cadw'u lle yn yr Uwchgynhrair.

Roedd Caerdydd a Fulham ar waelod y tabl ac yn wynebu'r bygythiad o gael eu hanfon i lawr i adran is.

Doedd dim angen i gefnogwyr Caerdydd boeni'n rhy hir.

Roedd y Gleision wedi cael sawl cyfle yn ystod yr hanner cyntaf, ac fe dalodd hynny, yn y pen draw, wrth i'r amddiffynwr, Steven Caulker, sgorio, ychydig eiliadau cyn hanner amser, reit i ganol y gôl.

Roedd pwysau ar Fulham wedi'r egwyl, ac fe gafodd Lewis Holtby gyfle i daro'n ôl gyda chic i gornel dde'r gôl, bron awr i mewn i'r gêm, gan ei gwneud hi'n gyfartal rhwng y ddau dîm.

Ond doedd Caerdydd ddim yn mynd i adael i hynny eu siomi.

O fewn saith munud, roedd Steven Caulker wedi penio un arall i ganol y rhwyd, gyda chymorth croesiad Jordon Mutch, gan sgorio'i ail gôl o'r gêm.

Fe ddaeth trydydd gôl Caerdydd drwy gamgymeriad Sascha Riether o Fulham yn sgorio gôl ei hun.

Hwb anferth

Mae canlyniad heddiw yn hwb anferth i Gaerdydd.

Dydy'r Gleision heb gael rhediad da yn ddiweddar, gan ennill dim ond un o'u 12 gêm gynhrair ddiweddar.

Mae nhw wedi methu â sgorio yn eu pedwar gêm ddiwethaf.

Mae tri phwynt i'r Gleision heddiw'n golygu eu bod rwan yn symud i'r 18fed safle, 4 pwynt yn uwch na Fulham.

Mae Fulham wedi colli wyth o'u gemau diweddaraf, a'u nawfed heddiw.

Mae nhw'n aros ar waelod y tabl, gyda 21 o bwyntiau wedi 29 gêm.

Tensiwn yn yr aer

Gyda chymaint o bwysau ar y ddwy ochr, roedd tensiwn yn yr aer drwy gydol y 90 munud yn Stadiwm Caerdydd.

Roedd y rhyddhad yn amlwg ar ddiwedd y gêm, gyda'r tîm cartref yn cael cymeradwyaeth anhygoel gan y cefnogwyr.

Roedd hynny'n gyferbyniad llwyr i funudau'n ddiweddarach pan roedd y dorf yn bwio wrth i'r perchennog dadleuol, Vincent Tan, gerdded ar y cae i ddathlu'r fuddugoliaeth.

Roedd rheolwr Caerdydd, Solskjaer wedi defnyddio strwythur 4-5-1 heddiw, patrwm tebycach i steil Malky Mackay, ar gyfer gêm roedd yn rhaid i'r ddwy ochr ei hennill.

Roedd y Gleision wedi gwasgu tuag at pen y cae pan roedd Fulham â meddiant, ac roedd nhw'n llawn bwriad o ymosod, ond fe fethon nhw â chreu cyfleon clir yn gynnar.

Yr ymwelwyr gafodd y cyfle cyntaf, gyda chic rydd Johnny Heitinga yn dod o hyd i Ashkan Dejagah yn ardal y gôl ond fe darodd y bêl ochr y rhwyd.

Fraizer Campbell gafodd gyfle cyntaf Caerdydd; roedd o'n llawn egni er ei fod wedi treulio'r noson yn yr ysbyty gyda'i wraig oedd yn cael babi.

Ond fe fethodd yr ymosodwr a dod o hyd i lwybr clir heibio Maarten Stekelenburg.

Roedd Caerdydd yn parhau i wasgu, gyda Kenwyne Jones â thrawiad bwerus cyn i amddiffynwr Lloegr, Steven Caulker lwyddo o'r diwedd.

Roedd Fulham yn fwy positif wedi'r egwyl ond fe ddylai Caerdydd fod wedi parhau ar y blaen bryd hynny pan ddaru Jones benio'n llydan at y postyn pellaf.

Dim ond dwy funud yn ddiweddarach, roedd hi'n gyfartal wrth i Heitinga benio cic gornel i lwybr Holtby, a sleidiodd y bêl i rwyd wag.

Ond wnaeth hi ddim para'n gyfartal yn hir, wrth i Caulker, wyth munud yn ddiweddarach, sgorio'i ail gôl yn dilyn croesiad gan Noone, gyda'r bêl yn bownsio i mewn i'r rhwyd dros Stekelenburg.

Pan drodd Riether y bêl i'w rwyd ei hun wedi i Stekelenburg arbed peniad Campbell, roedd buddugoliaeth Caerdydd yn gyflawn.