Charteris i fethu gornest Lloegr gydag anaf

Luke Charteris & Jake Ball Image copyright Huw Evans picture agency

Ni fydd clo Cymru Luke Charteris yn chwarae yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul oherwydd anaf i'w wddf.

Roedd clo Perpignan wedi ei enwi gan Warren Gatland i chwarae gydag Alun Wyn Jones yn yr ail reng yn Twickenham.

Y Scarlet Jake Ball, 22, fydd yn cymryd ei le wedi'r anaf.

Bydd Ball yn dechrau ei ail gêm yn olynol wedi iddo gymryd lle Alun Wyn Jones yn erbyn Ffrainc bythefnos yn ôl.

Clo'r Dreigiau, Andrew Coombs sydd yn symud i'r fainc.

Ymunodd Ball â'r Scarlets yn 2012, pan symudodd o Awstralia - lle cafodd ei fagu.

Cafodd ei eni yn Lloegr a'i fagu yn Awstralia. Mae'n gymwys i chwarae i Gymru drwy ei dad, sy'n dod o Fae Colwyn.

Lloegr v Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Mawrth 8, 15:00

Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton Saints), Rhys Priestland (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch); GethinJenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Capt - Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Rhodri Jones (Scarlets), Andrew Coombs (Dreigiau), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Dan Biggar (Gweilch), Liam Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol