Toriadau hamdden: pryder gordewdra

Dr Nadim Haboubi
Image caption Mae Dr Haboubi yn dweud bod yna 'argyfwng o ordewdra' yng Nghymru

Mae arbenigwr gordewdra wedi rhybuddio bod toriadau i'r gwasanaethau hamdden yn "ddychrynllyd a thrychinebus".

Dywedodd Dr Nadim Haboubi y dylai cynghorau Cymru wario mwy ar hamdden er mwyn taclo'r "argyfwng o ordewdra" yng Nghymru.

Mae cynghorau Cymru yn gorfod gwneud arbedion mawr ar hyn o bryd ar ôl i Lywodraeth Cymru roi llai o arian iddyn nhw. Mae gwasanaethau hamdden yn fwy tebygol o gael eu torri am nad oes rhaid i gynghorau ddarparu'r gwasanaeth. Mae gan Gymru lefelau uchel o ordewdra gydag Arolwg Iechyd Cymru yn 2012 yn dweud bod 57% o oedolion yn ordew neu dros eu pwysau.

"Mae gyda ni argyfwng gordewdra yng Nghymru yn barod. Mae'n drist bod hyn [y toriadau] yn digwydd pan ddylen ni fod yn gwneud i'r gwrthwyneb yn llwyr," meddai Dr Haboubi wrth BBC Cymru.

"Yn America, mae na gynnydd wedi bod yn nifer y canolfannau hamdden sydd yn agor eu drysau 24 awr y dydd a Chymru ydy'r wlad waethaf yn y byd gorllewinol heblaw am America.

"Y ffactor mwyaf pwysig o ran bod yn ordew ydy os ydych chi yn byw bywyd lle nad ydych chi yn symud llawer. Y mwyaf actif ydych chi, y lleiaf tebygol ydych chi o fod yn ordew."

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud bod y toriadau i gyllidebau'r cynghorau yn anochel a'u bod wedi amddiffyn cyllid cynghorau dros y dair blynedd diwethaf er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw fuddsoddi mewn "gweithgareddau sydd eu hangen i gynnal gwasanaethau lleol yn yr hinsawdd ariannol anoddach sydd i ddod".

Ychwanegodd: "Rydym yn parhau i fod wedi'n hymrwymo i leihau lefelau gordewdra yng Nghymru drwy annog a chefnogi unigolion a theuluoedd i wneud dewisiadau positif, gan gynnwys diet iachach a bod yn fwy heini."

Mae cynghorau wedi dewis gwneud arbedion mewn gwahanol feysydd.

Mae cynghorau Torfaen a Phen y Bont wedi penderfynu preifateiddio eu gwasanaethau hamdden. Yng Nghaerffili mae'r cyngor wedi penderfynu cau'r ganolfan hamdden. Roedd Caerdydd wedi penderfynu codi ffïoedd am ddefnyddio cae chwarae yn 2013. Mae Casnewydd wedi gwahodd clybiau i gymryd rheolaeth eu hunain dros yr adnoddau mae nhw'n eu defnyddio.

Image caption Roedd dros gant mewn protest yn Wrecsam yn gwrthwynebu cau Canolfan Hamdden Plas Madoc

Penderfyniadau amhoblogaidd

Ond mae'r penderfyniadau yma yn rhai dadleuol ac amhoblogaidd, fel y gwelodd dau gyngor penodol yn ddiweddar.

Yn Wrecsam, fe bleidleisiodd y cyngor o blaid cau'r ganolfan hamdden Plas Madoc ddiwedd Chwefror, a bu sawl protest am y penderfyniad. Dydd Mawrth, fe fydd cyngor gweithredol Wrecsam yn penderfynu p'run ai i ohirio cau'r ganolfan hamdden o fis Mehefin i Hydref er mwyn caniatâu i grwp cymunedol gael mwy o amser i ystyried cymryd awennau'r ganolfan.

Roedd Cyngor Caerfyrddin wedi bwriadu cynyddu ffïoedd ar gyfer defnyddio meysydd chwaraeon. Wedi iddyn nhw glywed ymateb cymdeithasau chwaraeon, mae'r cyngor rwan wedi penderfynu rhewi'r ffïoedd tra'n arolygu'r penderfyniad.

Roedd y cyngor angen arbed £30m dros dair blynedd ac wedi rhybuddio nad oedd y £260,000 sy'n cael ei wario ar gynnal caeau ac ystafelloedd newid yn gynaliadwy. Byddai cynlluniau gwreiddiol y cyngor wedi gweld cost defnyddio cae pêl-droed oedolion yn codi o £73 yn Ebrill 2014 i £235 o bosib erbyn 2016.

Roedd y cynlluniau hynny wedi codi ofn ar glwb pêl-droed Dafen yn Llanelli, sydd â dros 200 o aelodau ifanc a hŷn.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Keri Evans: "Mae'r costau wedi'u rhewi ond pwy â wyr. Mae'r cwmwl yma yn dal i hongian uwch ein pennau ar hyn o bryd."

Petai ffïoedd yn codi yn ôl y drefn wreiddiol, mae Mr Evans yn besimistaidd am ddyfodol y clwb. "Fydden ni ddim yn gallu gweithio," meddai.

"Rydym ni'n ceisio codi pres ym mhob ffordd bosib ar hyn o bryd er mwyn gwella'r adnoddau yma, felly petai'r plwg yn cael ei dynnu, fel petai, fe fyddem yn gweld 100 o blant o ardal Dafen yn unig yn cerdded y strydoedd ar eu pennau'u hunain a dim i'w wneud."

Clybiau yn rheoli eu tynged

Image caption Mae aelodau Clwb Bowlio Belle Vue wedi penderfynu rhedeg y clwb eu hunain

Gyda'r esgid yn gwasgu, mae'r ffordd mae gwasanaethau hamdden yn cael eu rhedeg yn newid. Rwan mae mwy o glybiau yn dewis bod yn gyfrifol am eu tynged eu hunain.

Dyma oedd cyngor Casnewydd wedi'i gynnig, er mwyn ceisio gwneud arbedion o £25m dros bedair blynedd.

Un clwb o'r math ydy Clwb Bowlio Belle Vue yng Nghasnewydd. Doedd y penderfyniad ddim yn un hawdd meddai'r ysgrifennydd Tony Allen.

Rwan mi fyddan nhw'n gyfrifol am gynnal a chadw'r pafiliwn a'r gwyrddni bowlio. Mae un cwmni preifat wedi dweud y bydd hyn yn costio £11,000 y flwyddyn iddyn nhw. Am y flwyddyn gyntaf mae'r clwb, sydd gyda 48 o aelodau, wedi gofyn am help gan y cyngor.

Dywedodd Tony Allen: "Ein gobaith mwyaf yw y bydd Belle Vue yn parhau i gael gwyrddni bowlio a chlybiau ac y bydd mwy o aelodau.

"Ond mae'n gambl. Ein pryder mwyaf yw y bydd Belle Vue yn y diwedd heb unrhyw glybiau na gwyrddni bowlio."

Pryderon ond pragmatiaeth

Ond tra bod pryderon amlwg am y dyfodol, mae hefyd pragmatiaeth bod cyllidebau y dyddiau hyn yn dynn.

"Roedd 'na ddrwgdeimlad ar y dechrau, ond wedi edrych ar yr adroddiadau a'r ffigyrau, rydyn ni'n gallu gweld bod yna broblem ddifrifol", meddai Tony Allen.

Mae Keri Evans yn derbyn bod yn rhaid gwneud toriadau, ond yn poeni y bydd torri ar hamdden yn creu storfa o broblemau yn y dyfodol.

"Dyma ddyfodol y genedl", meddai.

"Os ydych chi'n cymryd hyn oddi arnom ni, be sy ganddom ni'n weddill?"

Straeon perthnasol