Tân mewn tŷ yn Llandysul

Gorsaf Dan Image copyright PA
Image caption Fe gafodd y gwasanaethau tân eu galw tua 8.45 fore Sadwrn.

Mae gwasanaethau tân y Canolbarth a'r Gorllewin yn delio gyda thân mewn tŷ deulawr yn Llandysul.

Mae criwiau tân o Landysul a Chei Newydd yno ar hyn o bryd.

Fe gawson nhw eu galw am chwarter i naw y bore.

Yn ôl adroddiadau, mae'r tŷ yn ardal Maes y Meillion "yn wenfflam".

Does neb wedi cael ei anafu.