Llywodraeth Cymru ddim am alw cais Land and Lakes mewn

Land and Lakes
Image caption Dim mwy o graffu ar gynlluniau Land and Lakes i adeiladu ar gyrion Caergybi

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymyrryd â phenderfyniad y cyngor i ganiatáu cais cynllunio dadleuol, gwerth £120m, i godi pentre' gwyliau ger Caergybi.

Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â phenderfyniad pwyllgor cynllunio'r cyngor i ganiatáu codi 800 o gabanau ar dir a oedd yn eiddo i gwmni mwyndoddi Anglesey Aluminium, sy'n cynnwys Parc Arfordirol Penrhos.

Ym mis Tachwedd 2013, fe wnaeth y cyngor gymeradwyo'r cais a hynny ar ôl iddyn nhw ei wrthod mewn cyfarfod blaenorol ym mis Hydref.

Roedd adroddiad yn dweud fod y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio, Carl Sargeant, yn credu y gallai unrhyw bryderon am y datblygiad gael eu trafod a'u datrys rhwng y cwmni a'r cyngor.

'Y gair olaf'

Yn ôl yr adroddiad, roedd y Gweinidog o'r farn mai'r llywodraeth leol ddylai gael y gair olaf gan nad oedd y cynllun yn ddigon mawr i fod o ddiddordeb cenedlaethol.

Ychwanegodd fod y llywodraeth yn hapus bod swyddogion cynllunio wedi rhoi sylw cytbwys i faterion amgylcheddol ac economaidd.

Dywedodd Richard Sidi, rheolwr gyfarwyddwr Land and Lakes: "Rydym wedi bod yn disgwyl am y newyddion yma ers Tachwedd 6.

"Oherwydd maint y datblygiad yma, rydym yn gwerthfawrogi'r amser roedd y llywodraeth angen i ystyried y datblygiad, ac rydym yn falch iawn na fydd rhaid galw'r cais i mewn am fwy o graffu.

"Gallwn fwrw 'mlaen nawr i weithio ar gytundeb cyfreithiol 106 a thrafod gyda Horizon (Cwmni Datblygu atomfa niwclear Wylfa Newydd) ynghylch llety i'w gweithwyr."

'Manteision economaidd'

Wrth groesawu'r penderfyniad, dywedodd y cynghorydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd, Aled Morris Jones: "Mae'r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i greu economi ffyniannus a llewyrchus yma ar Ynys Môn a bydd y prosiect hwn yn dod â manteision economaidd tymor hir ar gyfer yr Ynys gyfan.

"Mae'r cais ei hun yn cynnwys nifer o gytundebau gyda'r ymgeisydd sydd i gyd yn anelu at roi hwb i gyflogaeth leol a chadwyn gyflenwi busnes lleol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Arwel Roberts, sy'n gyfrifol am y portffolio cynllunio: "Mae'r cynlluniau hyn yn cynrychioli'r cais mwyaf i gael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ynys Môn erioed.

"Rwy'n falch gyda phenderfyniad y Gweinidog y dylai'r cynigion gael eu penderfynu gan yr awdurdod lleol ac rydym yn awr mewn sefyllfa i gymryd y camau nesaf a pharhau trafodaethau gyda'r datblygwr.

Pryderon

Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Ymgyrch Achub Penrhos wedi ysgrifennu at Carl Sargeant yn gofyn iddo weithredu, gan ddweud fod y datblygiad yn mynd yn groes i nifer o bolisïau cynllunio Llywodraeth Cymru.

Roedd Cymdeithas yr Iaith yn honni nad oedd asesiad annibynnol wedi ei gynnal ar effaith y datblygiad ar y Gymraeg, ac roedd Ymgyrch Achub Penrhos yn poeni am yr effaith ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Yn ôl Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r penderfyniad yn dangos yn glir i ni ffaeleddau'r drefn gynllunio.

"Dyma ddangos unwaith eto fod Llywodraeth Cymru yn fodlon aberthu ein cymunedau ar allor y farchnad rydd.

"Dyna pam fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio ein deddfwriaeth ein hunan yng Nghaerdydd, er mwyn dangos bod ffordd arall ymlaen.

"Mi fyddwn hefyd yn pwyso ar y llywodraeth i gynnwys y Gymraeg fel ystyriaeth gynllunio statudol fel bod modd gwrthod ceisiadau cynllunio ar sail eu heffaith ar y Gymraeg."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.