Tanau gwair wedi dyddiau sych

Mae diffoddwyr tân ar draws Cymru wedi cael eu galw i ddelio gyda thanau gwair yn dilyn cyfnod o dywydd sych.

Nos Lun fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i ddau dân ym Maesteg, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd criwiau hefyd eu gyrru i Rydyfelin, ger Pontypridd, Tredegar Newydd, ger Caerffili, a mynydd Sirhywi, ger Glyn Ebwy.

Fe gafwyd tanau gwair hefyd yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Llangollen.

Bu criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn sawl ardal gan gynnwys Treforys, Brynaman Uchaf a Horeb, ger Caerfyrddin.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth bod y tanau i gyd yn gorchuddio ardal oedd yn llai nag un hectar o faint.

Yng ngogledd Cymru fe gafodd tair injan dân eu gyrru i ddigwyddiad yn Llandysilio, ger Llangollen, i ddelio gyda thân ar ddau hectar o dir.

Dechreuodd y tân yno ychydig wedi 5:00yh.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.