Toriadau: Dyfodol ansicr i theatrau

Sherman
Image caption Gallai 16 o bobl golli eu swyddi wrth i'r Sherman chwilio am ffyrdd o arbed arian

Mae nifer o sefydliadau celfyddydol yn darganfod eu hunain yn wynebu dyfodol ansicr, wedi i gynghorau Cymru gyhoeddi eu cynlluniau gwario ar gyfer 2014/15,

Gan fod gwariant ar bethau fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei arbed gan reolau statudol, does gan awdurdodau lleol ddim dewis ond torri nôl ar wasanaethau eraill.

Yn ogystal â llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, mae nifer o theatrau wedi clywed y byddan nhw'n colli eu grant o fis Ebrill ymlaen.

Mae rhai'n cwestiynu os yw'n deg tynnu'r arian yma'n ôl gan ystyried mai dim ond £50 miliwn allan o £7 biliwn o arian awdurdodau lleol gafodd ei wario'r flwyddyn ddiwethaf.

Diwedd y gân i'r Miwni

Mae Theatr y Miwni ym Mhontypridd yn wynebu gorfod cau yn dilyn penderfyniad Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddileu eu grant.

Doedd y theatr yn methu cadarnhau pryd fydd hyn yn digwydd gan eu bod yn disgwyl canlyniad cyfarfod o gabinet y cyngor yn hwyrach ym mis Mawrth.

Dywedodd aelod o staff Theatr y Miwni wrth y BBC eu bod nhw'n dal i werthu tocynnau ar gyfer pantomeim y flwyddyn nesaf er eu bod nhw'n gwybod y bydd y theatr wedi cau erbyn hynny, yn ôl pob tebyg.

Un sydd wedi gwneud llawer o ddefnydd o'r adeilad yw'r cyfarwyddwr Geinor Styles, sy'n gweithio i Theatr Na Nog. Mae hi'n credu y bydd colli'r Miwni'n ergyd i'r ardal leol.

"Er ein bod ni'n son bod lot o theatrau o gwmpas does dim lot o theatrau'r seis yna hefyd sy'n cael y cynulleidfaoedd i fewn drwy'r drysau," meddai.

"Mae'n hollol bwysig i ni fel cwmni, mae mewn ffordd yn le arbennig o fewn y cymoedd. Mae pobl o Ferthyr yn dod i weld pethau o'r holl ardaloedd cyfagos, felly mae'n hollol bwysig i ni fel cwmni yn bendant."

Llai o ddiwylliant yng Nghaerdydd?

Mae nifer o theatrau yng Nghaerdydd yn darganfod eu hunain yn yr un sefyllfa wrth i'r cyngor geisio arbed £50 miliwn o'r gyllideb.

Yn ôl y cyngor dydyn nhw methu fforddio edrych ar ôl Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd ddim mwy, ac maen nhw felly'n chwilio am gwmnïau i gymryd drosodd y gwaith.

Bydd y Sherman yn colli £160,000 o arian cyngor ac mae'r arian mae'r Sherman yn ei dderbyn gan y Cyngor Celfyddydau'n cael ei dorri hefyd.

Cwblhawyd gwaith gwerth £5.8 miliwn ar foderneiddio'r theatr y flwyddyn ddiwethaf - gwaith a gymrodd ddwy flynedd i'w orffen.

Mae ymgynghoriad eisoes wedi cael ei gyhoeddi er mwyn casglu barn pobl am syniad a allai achub y theatr, sef cael gwared ar 16 o swyddi.

Gormod o gynghorau?

Mae Clwyd Theatr Cymru'n derbyn bron i £1 miliwn gan Gyngor Sir y Fflint bob blwyddyn, a dim ond toriad cymharol fach maen nhw wedi ei dderbyn, sef £55,000.

Ond mae'r arian maen nhw'n ei dderbyn gan y Cyngor Celfyddydau dan fygythiad.

Mae cadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru, Geraint Talfan Davies, yn credu bod ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 wedi gwneud pethau'n anoddach i sefydliadau celfyddydol.

"Os ewch chi'n ôl i ddechrau'n 90au pan oedd 'na siroedd sylweddol fel Clwyd a Gwynedd a De Morgannwg ac ati, mi oedd modd ariannu'r pethau yma er engraifft Theatr Clwyd neu y Sherman.

"Ond cyn gynted i'r awdurdodau yma gael eu had-drefnu i awdurdodau bach iawn mi aeth hi'n anodd iawn i'r awdurdodau ariannu'r celfyddydau mewn modd teilwng."

Mae Comisiwn Williams wedi argymell gostwng nifer y cynghorau o'r 22 presennol i 10, 11 neu 12.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cydnabod bod hyn yn annhebygol o ddigwydd cyn yr etholiad Cynulliad nesaf yn 2016.

Ond gyda nifer o theatrau dan fygythiad nawr, mae'n bosib y bydd unrhyw fudd o'r newid yn dod rhy hwyr.

Straeon perthnasol