Aelod UKIP: Clymblaid Ceredigion yn y fantol?

Cyngor Ceredigion
Image caption Pencadlys Cyngor Ceredigion

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall fod arweinydd Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud wrth aelodau Annibynnol y bydd y glymblaid yn dod i ben os bydd aelod o blaid UKIP yn aros yn rhan o'r grŵp.

Cafodd y cynghorydd Gethin James ei ddiswyddo o'r Cabinet ddydd Llun ar ôl iddo gyhoeddi ei fod wedi ymuno ag UKIP.

Ddydd Mawrth, dywedodd y cynghorydd Ellen ap Gwynn wrth arweinydd y grŵp Annibynnol, y cynghorydd Roy Quant, fod yn rhaid gwneud penderfyniad ar ddyfodol y cynghorydd James fel rhan o'r grŵp.

Y gred yw y bydd Mr James yn cynnig ymddiswyddo o'r grwp ddydd Mercher.

Yn dilyn etholiadau'r cyngor yn 2012, fe ffurfiodd Plaid Cymru glymblaid gyda chynghorwyr Annibynnol i arwain Cyngor Ceredigion.

Roedd y cynghorydd James â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Ffordd o Fyw a Gwastraff.

Ddydd Gwener diwetha' roedd arweinydd Plaid Cymru wedi ymosod ar UKIP yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghaerdydd.

Dywedodd Leanne Wood y byddai pleidlais dros UKIP yn bleidlais yn erbyn Cymru.

Roedd cyn arweinydd y blaid, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi beirniadu'r safbwynt hwnnw.

Cytunodd Mr James gyda'r feirniadaeth, gan ddweud: "Dyw herio'r peth wmbrath o ddeddfwriaeth sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd ddim yn golygu fy mod yn erbyn yr hyn sy'n llesol i Gymru."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gyngor Ceredigion am ymateb.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.