Chwilio am filiwnydd loteri

Logo EuroMillions
Image caption Cafodd y tocyn gwerth £1m ei brynu yn sir Conwy ar Chwefror 25

Mae'r Loteri Cenedlaethol yn dweud fod tocyn a gafodd ei brynu yn sir Conwy'n werth £1 miliwn, ond does yna neb wedi hawlio'r wobr eto.

Fe gafodd y tocyn EuroMillions ei brynu ar ddydd Mawrth, Chwefror 25.

Mae gan berchennog y tocyn, gyda'r rhif raffl ZXJ180326, tan ddydd Sul, Awst 24 i hawlio'r wobr.

Os na fydd hynny'n digwydd, yna bydd yr arian yn mynd i gronfa achosion da'r Loteri Cenedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Loteri Cenedlaethol: "Rydym yn hynod awyddus i ddod o hyd i'r enillydd - fe allai'r wobr wneud gwahaniaeth aruthrol i fywyd yr unigolyn lwcus.

"Rydym yn annog pawb wnaeth brynu tocyn yn yr ardal i gymryd golwg arall ar eu tocynnau EuroMillions, neu i chwilio am docyn sydd wedi mynd ar goll."