Swyddi i ganolfan alwadau oedd dan fygythiad o gau

Canolfan Alwadau TUI Abertawe Image copyright Reuters
Image caption Mae canolfan alwadau TUI UK&Ireland yn hysbysebu swyddi yn Abertawe llai na chwe mis ar ol bygythiad i gau'r ganolfan

Mae dyfodol canolfan alwadau yn Abertawe wedi ei sicrhau, llai na chwe mis ers i gwmni TUI UK & Ireland dweud eu bod am gau'r swyddfa.

Hysbysebodd y cwmni - sy'n berchen ar gwmnïau gwyliau Thomson a First Choice - nifer o swyddi fydd yn cael eu creu yn eu canolfan alwadau ar stryd Mariner.

Ym mis Medi y llynedd dywedodd y cwmni ei bod am gau'r ganolfan gyda cholled o 48 o swyddi.

Roedd y gweithwyr wedi cael cynnig i symud i ganolfannau eraill.

Erbyn hyn mae'r ganolfan yn Abertawe yn gweithio fel canolfan gefnogol i'w swyddfa yn Coventry.

Uchel eu parch

Dywedodd Kathryn Ward, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid TUI UK & Ireland: "Mae'r canolfan a gweithwyr yn Abertawe yn uchel eu parch am y gwasanaeth a chefnogaeth maent yn ei roi i'n cwsmeriaid.

"Felly rydw i wrth fy modd ein bod nid yn unig wedi gallu arbed y swyddi yno wrth gadw'r ganolfan ar agor, ond bod gennym swyddi newydd yno i'w llenwi."

Ar hyn o bryd mae'r swyddi sy'n cael eu hysbysebu yn cynnwys asiant cyswllt yn y ganolfan ac ymgynghorwr dan hyfforddiant.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.