Diffoddwyr yn delio â thân mewn siop yng Nghaerffili

Tan Caerfffili Image copyright Dan Curtis
Image caption Siop wedi cael ei ddifrodi gan y tân yng Nghaerffili

Mae'n debyg mai dilledyn yn cyffwrdd a thân trydan achosodd y tân mewn siop yng Nghaerffili fore Mercher.

Ar ei anterth roedd hyd at 40 o ddiffoddwyr tân o saith gorsaf yn delio gyda'r tân yn siop Thaz ar Heol Caerdydd

Rhoddwyd cyngor i drigolion gadw eu ffenestri ar gau ac roedd siopau cyfagos wedi eu gwagio.

Dywedodd Graeme Smith o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod perchennog y siop wedi cynnau'r tân y bore 'ma oherwydd ei bod yn oer, yna aeth dilledyn ar dân a lledaenodd trwy'r siop.

Roedd y diffoddwyr yn defnyddio offer anadlu a phump o bibellau dŵr i ddelio gyda'r tân.

Fe gawson nhw eu galw i'r digwyddiad am 10.05 y bore.

Ar y pryd dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar eu cyfrif Twitter y dylai pobl osgoi canol Caerffili oherwydd bod "digwyddiad mawr" yno.