Adroddiad Sara Gibson.
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Brwydr dymchwel cartref

12 Mawrth 2014 Diweddarwyd 08:06 GMT

Mae gwrandawiad wedi dechrau ddydd Mawrth i benderfynu a ddylai cartref dynes yn Aberystwyth gael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer siopau newydd.

Enid Jones yw'r unig un o drigolion Ffordd Glyndwr sy'n parhau i frwydro dros gadw'i thŷ.

Mae Cyngor Ceredigion am ddymchwel y rhes o dai i wneud lle i ddwy archfarchnad, ac yn dweud y byddai'r fenter yn creu swyddi ac yn adnewyddu'r ardal.

Adroddiad Sara Gibson.