Charlotte Church yn dangos diddordeb mewn gradd ffiseg

Charlotte Church Image copyright Getty Images
Image caption Does gan Charlotte Church ddim bwriad rhoi'r gorau i'w gyrfa fel cantores er yr holl waith fyddai'n dod yn sgîl dilyn gradd.

Mae'r gantores Charlotte Church wedi datgan diddordeb mewn newid cyfeiriad yn ei gyrfa - gan astudio ar gyfer gradd mewn ffiseg.

Er nad oes ganddi fwriad rhoi'r gorau i ganu, fe ddywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn bwysig ''parhau i addysgu eich hun''.

Roedd y gantores yn siarad gyda BBC Cymru yn ystod lansiad cynllun talent cerddorol y gorfforaeth.

''Dwi eisiau mynd i wneud gradd mewn ffiseg - ond bydd yn rhaid i mi wneud lefel-A mewn mathemateg a ffiseg yn gyntaf,'' meddai.

''Pwysig cadw'r ymennydd yn weithgar''

''Dwi'n credu ei fod yn bwysig i gadw'r ymennydd yn weithgar ag i barhau i addysgu eich hunan.

''Mae gen i ddiddordeb yn y peth ac fe ddyliwn geisio dilyn y diddordeb yna. Mae'n rhywbeth y mae gen i ddiddordeb ynddo ers blwyddyn neu ddwy.''

Dywedodd fod llawer o'i diddordeb yn y pwnc wedi ei danio gan y cynhyrchydd a'r peirianydd sain, Gethin John.

''Pam ddim?''

''Roedd o wastad yn esbonio damcaniaethau gwahanol ac fe dyfodd fy niddordeb drwyddo fo ac fe wnes i ddechrau prynu'r cylchgrawn y 'New Scientist' a dechrau dod yn 'chydig o 'geek' am yr holl beth'' meddai. ''Pam ddim?''

Does gan Charlotte Church ddim bwriad rhoi'r gorau i'w gyrfa fel cantores er yr holl waith fyddai'n dod yn sgîl dilyn gradd.

''Mae cerddoriaeth yn fy ngwythiennau felly bydd yn rhaid parhau - mae yn fy ngwaed, sydd yn wych'' meddai.