Awyrlu UDA yn ymddiheuro am greu sŵn

F-15E
Image caption Roedd nifer o awyrennau F-15E, tebyg i hon, yn rhan o'r sesiwn hyfforddi

Mae Awyrlu'r Unol Daleithau wedi ymddiheuro am achosi clec sonic wnaeth ysgwyd cartrefi a busnesau yn Aberystwyth ddydd Llun.

Bu'n rhaid i un siop yn y dref gau oherwydd bod y nenfwd wedi dechrau syrthio.

Yn ôl yr awyrlu, nifer o'u hawyrennau F-15E o safle'r Llu Brenhinol yn Lakenheath yn Suffolk oedd yn gyfrifol - roedden nhw wedi bod yn ymarfer ger yr arfordir.

Fe wnaeth un ohonynt dorri'r mur sain gan achosi'r glec anhygoel.

Mewn datganiad, dywedodd 48fed Adain Ymladd Llu Awyr yr Unol Daleithiau: "Gallwn gadarnhau mai awyren o RAF Lakenheath sy'n debygol o fod yn gyfrifol am y sonic boom gafodd ei glywed dros Aberystwyth.

"Yr adeg honno roedd nifer o awyrennau F-15E Strike Eagle yn cynnal hyfforddiant heriol yn yr awyr.

"Fel arfer byddai hyn yn cael ei gynnal dros ddŵr ond roedd y gofod roedden ni i fod ei ddefnyddio wedi ei golli i ni a chafodd yr awyrennau eu dargyfeirio i ofod hyfforddi milwrol yng Nghymru.

"Yn ystod yr hyfforddiant, ger arfordir ardal Aberystwyth, fe wnaeth un o'r awyrennau oedd eisoes yn teithio ar gyflymder uchel gyrraedd cyflymder uwchsonig rhyw 18,000 troedfedd i fyny, proses wnaeth mwy na thebyg achosi'r sŵn...

"Rydym yn cynnig ein hymddiheuriadau diffuant am unrhyw aflonyddwch neu bryder wnaeth hyn achosi."