Claf o Gymru yn gwneud cais am ofal meddygol yn Lloegr

Mariana Robinson
Image caption Mae Mariana Robinson am gael ei thrin yn Lloegr

Mae claf y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy'n dioddef o salwch difrifol wedi ysgrifennu at ysgrifennydd iechyd San Steffan yn gofyn am gael triniaeth yn Lloegr.

Mae Mariana Robinson, 60 oed, yn dioddef o salwch ar ei phancreas, a dywedodd y byddai'n rhaid aros am rhy hir i weld meddyg yng Nghymru.

Gofynnodd Ms Robinson, sy'n byw yn Sir Fynwy, i fwrdd iechyd Aneurin Bevan os gallai gael triniaeth yn Lloegr, ond cafodd y cais ei wrthod.

Dywedodd y bwrdd bod pob cais o'r fath yn cael ei hystyried yn unigol.

'Sgandal'

Mae gan Ms Robinson, artist o Laneuddogwy, gyflwr sy'n golygu mai ond 10% o'i phancreas sydd ar ôl, ac os bydd yn gwaethygu, gall ddatblygu Diabetes math 1.

Mae Ms Robinson wedi talu dros £3,000 i weld ymgynghorydd ym Mryste, ond dywedodd bod angen mwy o brofion i ddarganfod yn union beth yw'r salwch.

Dywedodd Ms Robinson ei bod hi ar restr aros yma yng Nghymru, ond mae'n honni y gallai weld meddyg o fewn chwe wythnos ar draws y ffin.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n sgandal - ac nid fi yw'r unig un," meddai.

"Dwi wedi cael sylw gan fy mod i'n gallu gyrru e-byst ond mae cannoedd os nad miloedd o bobl gydag afiechydon gwahanol."

Mewn llythyr at yr ysgrifennydd iechyd, Jeremy Hunt, dywedodd: "Mae'r system Gymreig yn fonolithig ac yn fiwrocrataidd - does gan y claf dim dewis o gwbl yn sut, pryd na lle y maent yn cael eu trin.

"Rydw i wedi diflasu ar aros ac os oes unrhyw beth o gwbl y gallwch wneud, byddwn yn ddiolchgar iawn."

Cydymdeimlad

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Hunt ei fod yn ymwybodol o'r problemau a bod ganddo gydymdeimlad gyda'r rheiny oedd yn eu hwynebu.

Ychwanegodd bod traean o gleifion yn aros mwy nag wyth wythnos am brofion diagnostig yng Nghymru, tra bod llai na 1% yn Lloegr yn aros am fwy na chwe wythnos.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchafswm o wyth wythnos ar gyfer aros am brofion diagnostig.

Roedd ffigyrau gafodd eu rhyddhau ddydd Iau yn dangos bod 34% o gleifion, 27,998 o bobl, wedi aros am fwy na hynny.

Mae Ms Robinson hefyd wedi ysgrifennu at y gweinidog iechyd yng Nghymru, Mark Drakeford, a'i haelod seneddol, David Davies.

Wrth godi'r mater yn San Steffan ddydd Mercher, dywedodd yr AS Ceidwadol bod Ms Robinson yn dioddef oherwydd gwasanaeth iechyd y Llywodraeth Lafur.

Galwodd hefyd ar y llywodraeth dalu i gleifion gael eu trin yn Lloegr os ydyn nhw'n dymuno.

'Anymwybodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Mark Drakeford: "Am AS mewn etholaeth ar y ffin, mae David Davies i'w weld yn anymwybodol o'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a Lloegr yn gweithio.

"Bob dydd mae miloedd o bobl o Loegr yn cael eu trin yng Nghymru a'r ffordd arall hefyd. Yn wir, mae dros 20,000 o bobl Lloegr wedi eu cofrestru gyda meddygon yng Nghymru."

Dywedodd y llywodraeth na fyddai'n gywir gwneud sylw ar achos unigol Ms Robinson.

Yn yr un modd, dywedodd bwrdd iechyd Aneurin Bevan na allent wneud sylw ar achosion unigol oherwydd cyfrinachedd.

Ond ychwanegon nhw: "Cafodd polisi ei sefydlu ym mis Medi 2012, sy'n ymwneud â chyfeiriadau gofal eilradd yn unig, i sicrhau bod trefniadau syml mewn grym i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn defnyddio ei wasanaethau ei hun, neu wasanaethau sydd wedi eu sefydlu gyda darparwyr Cymreig eraill, cyn ceisio sicrhau triniaeth gyda chyrff GIG eraill.

"Rydyn ni hefyd yn parhau i gael cytundebau gydag ysbytai eraill pan fo angen.

"Mae trefniadau mewn grym i alluogi i geisiadau am ofal y tu allan i'r bwrdd iechyd gael eu hystyried yn unigol.

"Mae penderfyniad i gytuno, neu wrthod, triniaeth y tu allan i'r ardal ond yn cael ei gytuno yn dilyn cyngor gan arbenigwyr yn y maes - byddai ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i faterion teithio a mynediad, parhâd y gofal a materion cymdeithasol."