£36m: Gwerth Cystadleuaeth Rygbi y Chwe Gwlad i Gaerdydd

Chwe Gwlad Image copyright PA
Image caption Mae'r RBS yn dweud mai gwestai, bwytai a siopau sydd wedi elwa fwyaf o bencampwriaeth y Chwe Gwlad

Wrth i bencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad ddirwyn i ben y penwythnos hwn, mae prif noddwr y gystadleuaeth, banc yr RBS, yn amcangyfrif fod y gystadleuaeth wedi dod â budd economaidd gwerth £36m i Gaerdydd.

Ac yn ôl amcangyfrif yr RBS, mae economiau'r chwe gwlad sydd yn cystadlu yn y bencampwriaeth wedi elwa o £375m.

Dywed y banc fod dinasoedd Caerdydd, Dulyn, Llundain, Paris, Rhufain a Chaeredin wedi elwa o £150m yn uniongyrchol wrth i filoedd o gefnogwyr dyrru i'r dinasoedd i wylio'r rygbi ac i wario eu harian.

Gwestai, bwytai a siopau oedd yn elwa fwyaf yn ôl gwaith ymchwil yr RBS, gyda:

  • £59m wedi ei wario ym mariau a bwytai'r dinasoedd oedd yn cynnal y gemau
  • £38m wedi ei wario ar lety yn y dinasoedd oedd yn cynnal y gemau
  • £19m mewn siopau

Dywedodd yr RBS fod yr hwb economaidd i fusnesau'r chwe gwlad yn dod mewn cyfnod cymharol dawel yn y flwyddyn yn draddodiadol.

Yn ôl y gwaith ymchwil roedd cynnydd o 25% yn nifer yr ystafelloedd gwesty oedd yn cael eu harchebu yng Nghaeredin yn unig pan roedd gêm rygbi'r chwe gwlad yn cael ei chynnal yn y ddinas.

Dywedodd Stephen Boyle, pennaeth Economi'r RBS:

''Mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn fwy na chystadleuaeth gyda 15 gêm o rygbi. Mae hwb i'r economiau lleol ac i fusnesau yn un gwirioneddol, yn enwedig o gofio fod y gemau mewn cyfnod cymharol dawel yn y tymor twristiaeth.''

Mae ymchwil yr RBS hefyd yn awgrymu fod y gystadleuaeth yn creu gwaith sydd gyfystyr â 300 o swyddi parhaol yng Nghaerdydd a 500 o swyddi parhaol yng Nghymru.

Straeon perthnasol